Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau Abertawe yn cael eu hannog i gyflwyno cais am wobr nodedig

Mae busnesau Abertawe yn cael eu hannog i wneud cais am Wobr y Frenhines am Fenter 2022.

Business

Business

Mae'r gwobrau ymhlith y rhai mwyaf nodedig i fusnesau o bob maint yn y DU.

Mae categorïau gwobrau yn cynnwys arloesedd, datblygiad cynaliadwy, masnach ryngwladol a hyrwyddo twf drwy symudedd cymdeithasol.

Eleni, roedd dros 90% o enillwyr yn fentrau bach a chanolig, gyda 44 o'r busnesau buddugol â 10 gweithiwr neu lai.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Busnesau Abertawe yw enaid economi ein dinas a'n sir. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i fusnesau oherwydd y pandemig, ond mae'r cyngor yn ymrwymedig i wneud popeth yn ei allu i helpu drwy sawl cynllun sy'n rhan o'n cronfa adferiad economaidd gwerth £20 miliwn.

"Mae llawer o'n busnesau wedi bod yn arbennig o arloesol ers dechrau COVID-19 felly mae'r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i gydnabod yr ymdrechion hynny a allai o bosib arwain at gyfleoedd marchnata sylweddol a sylw gan y wasg, cynnydd mewn trosiant a hwb i forâl staff.

"Rwy'n annog busnesau Abertawe i ymgeisio am Wobr y Frenhines am Fenter i ddiolch am eu cyfraniad rhagorol i Abertawe, y ddinas-ranbarth, Cymru a'r DU gyfan."

Meddai Louise Fleet, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg,"Gwobrau cenedlaethol yw Gwobrau'r Frenhines am Fenter ac maent yn cydnabod busnesau lleol a rhyngwladol.

"Yn ôl enillwyr, mae'r gwobrau yn awr yn bwysicach nag erioed gan fod yr arwyddlun yn sêl bendith frenhinol sy'n eu helpu i gystadlu ar lwyfan byd eang yn erbyn cwmnïau llawer mwy. Mae hefyd yn cynnig cyfle i enillwyr gysylltu ag enillwyr eraill a gweithio gyda nhw yn ogystal â helpu cwmnïau eraill.

Caniateir i enillwyr y wobr ddefnyddio'r arwyddlun brenhinol am bum mlynedd a chânt eu gwahodd i dderbyniad brenhinol dathliadol. Caiff y gwobrau eu cyflwyno gan Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi ar gyfer Gorllewin Morgannwg.

Ewch i www.gov.uk/queens-awards-for-enterprise i gyflwyno cais a chael rhagor o wybodaeth.