Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl ifanc yn camu i fyny i gefnogi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Mae pobl ifanc yn Abertawe'n mynd ati ym mis Mai i godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Evolve staff and young people sponsored walk

Evolve staff and young people sponsored walk

Mae gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn cymryd rhan yn her Young Minds i gerdded 310,000 o gamau mewn 31 diwrnod yn ystod mis Mai.

Mae Young Minds yn rhan o Evolve, gwasanaeth ieuenctid Cyngor Abertawe, sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc a'u teuluoedd.

Daw'r her i ben ddydd Mawrth 30 Mai pan fydd 20 o bobl ifanc a 10 o wirfoddolwyr a staff yn cerdded o Neuadd y Ddinas i bier y Mwmbwls ac yn ôl i ychwanegu at eu camau a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobl ifanc.

Os hoffech wneud cyfraniad neu rannu manylion y dudalen JustGiving, ewch i https://www.justgiving.com/page/evolve-swansea-1682082823954