Argymhellion allgludo gan arbenigwyr ar gyfer busnesau Abertawe
Bydd busnesau yn Abertawe sydd am ddatblygu marchnad dramor yn derbyn argymhellion gan yr arbenigwyr yn ystod digwyddiad am ddim a gynhelir yn hwyrach y mis hwn.
Bydd Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol Distyllfa Penderyn ar gael i drafod sut y mae'r cwmni wedi tyfu ei fusnes allgludo a marchnadoedd allweddol dros y ddau ddegawd diwethaf.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein rhwng 11.15am a 12.15pm ddydd Llun 26 Chwefror, a chaiff ei drefnu gan Gyngor Abertawe fel rhan o'i wasanaeth cefnogi busnes parhaus, yr awr bŵer.
Lansiwyd busnes whisgi Penderyn yn 2001, ac mae bellach ar gael mewn dros 50 o wledydd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, UDA a Tsieina.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Efallai bod nifer o fusnesau yn Abertawe naill ai eisoes yn allgludo eu cynnyrch neu'n ystyried gwneud hynny yn y dyfodol, felly bydd y digwyddiad ar-lein am ddim hwn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer busnesau lleol o'r math hwnnw.
"Gyda distyllfa a chanolfan ymwelwyr bellach ar safle Gwaith Copr yr Hafod Morfa yn Abertawe, mae Penderyn wedi sefydlu ei hun fel llwyddiant byd-eang yn ystod y degawdau diwethaf, gyda ffigyrau'n dangos bod allgludo'n gyfrifol am dros 30% o'r cyfanswm gwerthiannau.
"Mae'n gwmni o safon ryngwladol, felly mae'r digwyddiad awr bŵer yn gyfle gwych i fusnesau eraill ddysgu o gwmni o Gymru sydd bellach yn adnabyddus ar draws y byd."
Ariennir y digwyddiadau awr bŵer gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac maent yn rhan o becyn o gymorth am ddim sydd ar gael gan Gyngor Abertawe ar gyfer cymuned busnesau'r ddinas.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnal cymorthfeydd galw heibio am ddim ar gyfer cyngor ar fusnes ar draws y ddinas. Cynhelir y gymhorthfa nesaf o'r math hwn yn Neuadd y Rechabiaid yn Nhre-gŵyr ddydd Gwener 23 Chwefror rhwng 10am a 1pm.
Gall busnesau hefyd fynd i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth am feysydd gan gynnwys cyfleoedd ariannu, cyngor ar recriwtio a hyfforddi a chymorth digidol a chydag adnoddau ar-lein.