Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru yn dychwelyd ar gyfer yr haf

Gall selogion sioe awyr Cymru sy'n ceisio profiad mwy arbennig fyth brynu tocynnau yn awr ar gyfer Bwrdd Hedfan y digwyddiad.

Red Arrows Over Swansea

Red Arrows Over Swansea

Disgwylir i'r Sioe Awyr ddenu degau ar filoedd o bobl ar 6 a 7 Gorffennaf, gyda chyfres o arddangosiadau o'r radd flaenaf dros Fae Abertawe.

Digwyddiad am ddim yw Sioe Awyr Cymru - ond mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer y Bwrdd Hedfan hynod boblogaidd, a noddir gan Travel House.

Mae'r parth eistedd hamddenol a diogel hwn, sydd wedi'i neilltuo â ffens, yng nghanol ardal yr arddangosiadau'n sicrhau'r golygfeydd gorau, di-rwystr o'r arddangosiadau awyr. Mae'r parth hwn sydd ar agor o 11am i 6pm ar y ddau ddiwrnod, yn cynnwys byrddau, seddi a phabell fawr i ddarparu cysgod ac mae opsiwn i brynu diodydd a bwyd yn yr un ardal.

Trefnir y sioe awyr gan Gyngor Abertawe. Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch iawn y bydd y Bwrdd Hedfan yn dychwelyd i Abertawe unwaith eto'r haf hwn. Bydd yn wych gweld pobl yno'n mwynhau'r arddangosiadau yn yr awyr uwchben Abertawe.

"Rydym yn diolch i'r holl fasnachwyr a'n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe.

"Mae'r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy'n arwain at benwythnos gwych i bawb sy'n rhan ohoni. Mae'n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol."

Mae rhai perfformwyr eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer sioe eleni, gan gynnwys y Typhoon a Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol sy'n enwog ar draws y byd a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd ar draws y bae. Cyhoeddir arddangosiadau awyr ychwanegol cyn bo hir.

Ar y ddaear, bydd amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd gan gynnwys arddangosfeydd, y pentref milwrol, mannau gwerthu bwyd a diod a cherddoriaeth fyw i'w mwynhau. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y Bwrdd Hedfan yn gyflym iawn y llynedd felly sicrhewch eich bod yn prynu'ch tocynnau'n brydlon.

Rhagor o wybodaeth: