Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol ar gyfer y rhaglen FIT Jacks

Mae rhaglen â'r nod o helpu cefnogwyr yr Elyrch sydd rhwng 35 a 65 oed i ddod yn fwy heini ac iach wedi derbyn hwb ariannol.

Swans FIT Jacks

Swans FIT Jacks

Bydd rhaglen FIT Jacks a gynhelir gan Swansea City AFC Foundation yn cael ei hehangu, diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Rhaglen ar gyfer dynion a menywod sydd am golli pwysau, gwella'u deiet a byw bywyd mwy heini yw FIT Jacks, a lansiwyd gyntaf ym mis Chwefror eleni.

Yn y rhaglen hon, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cwrs rheoli pwysau a newid ymddygiad 13 wythnos, a gynhelir gan hyfforddwyr arbenigol yn stadiwm Swansea.com.

Elwodd ei grŵp cyntaf o gyfranogwyr o golli cyfanswm o 112kg o bwysau ar y cyd ac 114cm oddi ar fesuriadau gwasg a gostyngodd eu hindecs màs y corff 34.30.

Diolch i hwb ariannol, bydd sefydliad yr Elyrch yn gweithio nawr gyda phum grŵp clwstwr o feddygon teulu lle bydd atgyfeiriadau'n cael eu cynnig i raglen FIT Jacks. Bydd pobl hefyd yn gallu hunanatgyfeirio i'r rhaglen.

Caiff y rhaglen ei chynnig hefyd i gyflogwyr a busnesau lleol ar draws y ddinas, ac eir at weithleoedd i ofyn iddynt gynnal digwyddiadau profion iechyd a gweithdai ar bynciau iechyd.

Mae'r hwb ariannol yn golygu y bydd y rhaglen yn cael ei darparu mewn lleoliadau ledled Abertawe, yn ogystal â'r rheini yn stadiwm Swansea.com, fel y bydd y rheini y nodir eu bod yn addas yn gallu cael mynediad at yr hyfforddiant, y gefnogaeth a'r cyngor arbenigol yn agosach at eu cartrefi.

Meddai Caroline Gwilym, Arweinydd Iechyd a Lles Swansea City AFC Foundation, "O ganlyniad i'r llwyddiant rydym eisoes wedi'i gael ers rhan gyntaf y flwyddyn, yn helpu ac yn cefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw drwy ein rhaglen FIT Jacks, rydym wrth ein boddau i gael y cyfle i ehangu'r ddarpariaeth hon a mynd â'r rhaglen allan i gymuned Abertawe.

"Mae hyn diolch i i Gyngor Abertawe a chyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

"Mae'n golygu y gallwn weithio gyda'r pum clwstwr o feddygon teulu yn Abertawe a fydd o fudd i gymaint yn fwy o bobl.

"Rydym hefyd mewn sefyllfa i dyfu ein tîm Iechyd a Lles yn y sefydliad i gefnogi darparu'r rhaglen ar lawr gwlad, felly mae hwn yn amser cyffrous i ni."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ffitrwydd, bwyta'n iach ac ymarfer corff rheolaidd mor bwysig - ar gyfer lles corfforol pobl yn ogystal â'u lles meddwl.

"Dyna pam rydym wrth ein boddau i allu cefnogi rhaglen FIT Jacks Swansea City AFC Foundationdrwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

"Mae'n cefnogi'r holl waith y mae'r cyngor yn ei wneud i annog pobl i fyw bywydau iachach.

Meddai'r Cyng. Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae'r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ei lansio'n gynharach eleni, ac mae'r cyllid yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl leol mewn cymunedau ledled Abertawe elwa ohoni yn y dyfodol.

Mae'r cyngor yn gwneud llawer o waith, naill ai'n uniongyrchol neu drwy weithio gyda phartneriaid, i hybu manteision byw'n iach i breswylwyr Abertawe.

Bydd y rhaglen FIT Jacks yn ategu amrywiaeth eang o wasanaethau eraill sydd ar waith ar gyfer pobl leol."

Mae llawer o brosiectau eraill yn Abertawe yn cael eu hariannu gan y cyngor drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Maent yn cynnwys prosiect angori busnes lle mae cyllid fel grantiau cychwyn busnes a grantiau twf busnes ar gael yn awr i bobl ymgeisio amdanynt.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2023