Prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig i bob disgybl Blwyddyn 5
Bydd disgyblion Blwyddyn 5 ym mhob un o ysgolion Abertawe yn cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fydd plant yn dychwelyd o'u gwyliau hanner tymor fis nesaf.
Mae'n golygu o 3 Mehefin y bydd mwy na 15,000 o ddisgyblion ar draws y ddinas yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim ac mae'r Cyngor ac ysgolion yn gweithio'n galed i estyn y cynnig i flwyddyn 6 cyn gynted â phosib.
Bydd hynny'n golygu bod Abertawe'n cyflawni'r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ran cynnig prydau ysgol am ddim ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd yn 2024.
Mae mwy na £4 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwella ceginau a diweddaru offer yn ysgolion y ddinas er mwyn cyflawni hyn.