Prydau ysgol am ddim yn cael eu hestyn i bob disgybl Blwyddyn 4
Bydd disgyblion Blwyddyn Pedwar ym mhob un o ysgolion Abertawe yn cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fydd plant yn dychwelyd o'u gwyliau hanner tymor fis nesaf.


Mae'n golygu o 19 Chwefror, y bydd mwy na 10,400 o ddisgyblion yn gymwys gan fod prydau am ddim eisoes ar gael i holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn, Blwyddyn Un, Blwyddyn Dau a Blwyddyn Tri. |
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim erbyn 2024, ac mae Cyngor Abertawe ar y trywydd iawn i gyflawni hyn.