Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion Blwyddyn Dau yn y ddinas yn derbyn cynnig am brydau ysgol am ddim

Bydd yr holl ddisgyblion Blwyddyn Dau sy'n mynychu ysgolion yn Abertawe yn cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fydd yr ysgol yn ailddechrau ar ôl hanner tymor mis Mai.

school meals generic

school meals generic

Mae dros 4,800 o blant yn y Derbyn a Blwyddyn Un yn gymwys ar hyn o bryd a bydd ymestyn y cynnig yn cynnwys 2,592 o ddisgyblion pellach o ddydd Llun 5 Mehefin.

Caiff disgyblion Blwyddyn Dau eu cofrestru'n awtomatig felly nid oes angen i rieni na gofalwyr wneud cais am y prydau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024, ac mae Cyngor Abertawe'n gweithio i gyrraedd y targed hwn.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg a Dysgu, "Yn Abertawe rydym yn buddsoddi dros £4.3m mewn gwella ceginau ysgol a diweddaru cyfarpar fel y gellir ei ddarparu ar amser.

"Rwyf wrth fy modd i ddweud pan fydd disgyblion Blwyddyn Dau yn dychwelyd ar ôl yr hanner tymor nesaf, y bydd gennym y gallu i'w cynnwys fel rhan o'r cynnig.

"Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod addewid Prydau Ysgol am Ddim Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed ac rwy'n ddiolchgar i weinidogion am y cyllid a ddarperir i'n galluogi i gyflawni hyn.

"Byddwn yn rhoi'r diweddaraf i rieni a gofalwyr cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i gynnwys rhagor o grwpiau blwyddyn yn y cynllun, unwaith y bydd yr isadeiledd angenrheidiol ar waith." 

Close Dewis iaith