Dosbarthiadau derbyn yn elwa o brydau ysgol am ddim
Bydd pob disgybl sy'n dechrau yn y dosbarth derbyn yn Abertawe ym mis Medi yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.
Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gydag ysgolion i ehangu'r cynnig i flynyddoedd eraill cyn gynted â phosib wrth iddo weithio tuag at roi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn 2024 ar waith.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn buddsoddi mewn cyfarpar a staff newydd yn ogystal ag addasiadau i geginau mewn rhai ysgolion, er mwyn gallu cyrraedd y targed erbyn 2024.
Bydd angen i rieni a gofalwyr a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn flaenorol wneud cais o hyd am gymorth arall fel y grant gwisg ysgol.
Does dim angen i deuluoedd a chanddynt blant sy'n dechrau yn y dosbarth derbyn wneud cais am y cynnig prydau ysgol am ddim gan y byddant yn cael eu cofrestru'n awtomatig yn eu hysgol.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae Llywodraeth Cymru'n arwain y ffordd gyda'i hymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oed cynradd erbyn 2024.
"Yn Abertawe rydym eisoes yn gwneud cynnydd da wrth baratoi i gyflawni'r ymrwymiad hwn."