Pob disgybl ysgol gynradd yn Abertawe i gael cynnig prydau ysgol am ddim o fis Medi
Bydd yr holl ddisgyblion cynradd yn Abertawe'n cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf ym mis Medi.
Mae'n golygu y bydd Abertawe wedi cyrraedd y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru i'r holl blant oedran cynradd dderbyn y cynnig yn 2024.
Ar hyn o bryd, mae'r holl ddisgyblion hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 5 yn gymwys ond o fis Medi, caiff ei ehangu i Flwyddyn 6 hefyd, gan helpu teuluoedd gyda chostau byw.
Mae'n golygu y bydd mwy na 18,000 o ddisgyblion yn gallu bwyta am ddim yn ystod y tymor yn Abertawe.