Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swydd Crwner - rhestr o farwolaethau y dylid adrodd amdanynt

Canllawiau ar gyfer marwolaethau y dylid adrodd amdanynt.

O 1 Hydref 2019 daeth Rheoliadau Hysbysiadau Marwolaeth 2019 i rym, gan ddisodli pob arweiniad a ddosbarthwyd yn lleol yn y gorffennol. Cyfeiriwch at Arweiniad Rhif 31 y Prif Grwner - arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer ymarferwyr meddygol cofrestredig a'r rheoliadau isod.

Dylid adrodd am farwolaeth i'r Crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu pan fydd meddyg yn gwybod neu pan fydd ganddo achos rhesymol i amau bod y farwolaeth:

  • Wedi digwydd o ganlyniad i wenwyno, defnydd o gyffur a reolir, cynnyrch meddyginiaethol neu gemegyn gwenwynig;
  • Wedi digwydd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, boed iddo gael ei achosi'n fwriadol neu beidio;
  • Yn gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn o natur feddygol neu rywbeth tebyg;
  • Wedi digwydd o ganlyniad i hunan-niweidio (gan gynnwys methiant y person sydd wedi marw i ddiogelu ei fywyd ei hun), boed yn fwriadol neu beidio;
  • Wedi digwydd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd wrth ymgymryd a gwaith y person sydd wedi marw, neu y gellir ei briodoli i'w waith;
  • Wedi digwydd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyno neu glefyd hysbysadwy;
  • Wedi digwydd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant rhywun arall i ddarparu gofal;
  • Yn annaturiol am reswm arall.

Rhaid rhoi gwybod i'r Crwner hefyd dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Digwyddodd y farwolaeth mewn dalfa neu ryw sefydliad carcharu arall y wladwriaeth - beth bynnag yw'r achos;
  • Nid oedd unrhyw ymarferydd yn bresennol neu nid oedd unrhyw un ar gael o fewn cyfnod rhesymol i lunio Tystysgrif Feddygol dros Achos y Farwolaeth;
  • Nid yw enw'r person sydd wedi marw'n hysbys.
Close Dewis iaith