Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tân gwyllt am ddim yn dychwelyd dros Fae Abertawe!

Bydd sioe tân gwyllt flynyddol arbennig Abertawe'n dychwelyd eleni - mae croeso i bawb, bydd am ddim i bawb a chaiff ei chynnal dros ddyfroedd y bae.

Fireworks in 2019

Fireworks in 2019

Disgwylir i filoedd o deuluoedd ac unigolion fod yn bresennol. Byddant yn mwynhau'r sioe ar fannau agored eang traeth Abertawe a'r promenâd.

Gan fod COVID-19 yma o hyd, mae trefnwyr Cyngor Abertawe'n benderfynol o geisio sicrhau bod digwyddiadau ar raddfa fawr yn cael eu cynnal i bobl eu mwynhau.

Er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosib fynd i'r sioe tân gwyllt yn ddiogel, y lleoliad gorau yw Bae Abertawe; bydd pobl yn yr awyr agored a bydd ganddynt ddigon o le i gadw pellter.

Mae llanw uchel yn golygu na fydd cynnal y sioe ar 5 Tachwedd yn bosib yn y lleoliad hwn, felly cynhelir y sioe ar y dyddiad mwyaf addas - dydd Gwener, 12 Tachwedd. Bydd llanw isel ar y noson honno'n golygu y bydd digon o le ar gyfer gwylwyr.

Dyma'r tro cyntaf i'r sioe beidio â chael ei chynnal ar 5 Tachwedd. Nid oes angen pàs COVID - mae'r math hwn o ddigwyddiad wedi'i eithrio.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Bydd ein harddangosfa ar 12 Tachwedd yn wych a bydd y llanw isel yn golygu bod gan y miloedd o wylwyr sy'n bresennol fel arfer ddigon o le i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel.

"Roeddem am gynnal y digwyddiad ar 5 Tachwedd fel arfer - ond doedd y llanw ddim ar ein hochr eleni.

"Gwnaethom ystyried lleoliadau eraill fel maes chwaraeon San Helen a Pharc Singleton ar gyfer 5 Tachwedd, ond am nifer o resymau, ni fydden nhw wedi bod cystal â'r bae.

"Mae nifer o arddangosfeydd tân gwyllt mawr eraill ar draws Cymru wedi'u canslo oherwydd logisteg y lleoliadau a phroblemau eraill sy'n ymwneud â'r pandemig. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o gyflwyno sioe hyd yn oed os yw'n golygu mynd yn groes i draddodiad er mwyn sicrhau ei bod mor ddiogel â phosib.

"Y llynedd nid oeddem yn gallu cynnal y sioe oherwydd y pandemig; eleni, wrth i ni weithio ein ffordd yn ôl, nid oeddem am i dorf enfawr golli'r cyfle i fwynhau'r tân gwyllt.

"Felly dewch i fwynhau'r arddangosfa - a chofiwch, cofiwch y deuddegfed o Dachwedd!"

Cynhelir y digwyddiad rhwng 6.30pm ac 8pm a bydd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau gan gynnwys y Rec, y Ganolfan Ddinesig a meysydd parcio canol y ddinas.

Bydd yn golygu rhai trefniadau ffyrdd tymor byr dros dro ar gyfer y noson. Bydd yn cynnwys cau Oystermouth Road dros dro (Rhwng Sketty Lane a Glamorgan Street) rhwng oddeutu 5pm a 9pm.

Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn y cyfryngau, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefannau a gynhelir gan y cyngor.

Roedd y sioe am ddim dros y bae ym mis Tachwedd 2019 wedi denu tua 30,000 o wylwyr.

Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com/events/arddangosfa-tan-gwyllt-bae-abertawe/

Llun:Noson Tân Gwyllt Abertawe yn 2019;  disgwylir i'r digwyddiad mawr, hygyrch sydd am ddim i'r teulu ddychwelyd i lan môr Abertawe eleni.