Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae arddangosfa tân gwyllt fwyaf Abertawe'n dychwelyd yn ei holl ogoniant!

​​​​​​​Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl y mis nesaf - a gellir mynd iddi am ddim.

Fireworks in 2021

Fireworks in 2021

Disgwylir i filoedd o bobl ddod i wylio'r arddangosfa arbennig dros Fae Abertawe nos Sadwrn, 5 Tachwedd, am 7pm.

Bydd yr arddangosfa oddi ar y traeth ar ysgraff, a bydd yn goleuo dyfroedd y bae wrth i'r tân gwyllt ffrwydro yn yr awyr.

Mae'r noson yn dechrau am 6pm a bydd adloniant cyn y sioe gan gynnwys sioe dân, diddanwyr wedi'u goleuo a pherfformwyr yn cerdded o gwmpas y lle. Bydd gwerthwyr bwyd yn agor am 6pm.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn darparu digwyddiadau gwych i bobl Abertawe eu mwynhau - a dyma ddigwyddiad allweddol yn ein rhaglen flynyddol.

"Mae'n ddiogel ac, oherwydd y pwysau ar gyllidebau aelwydydd eleni, rydym wedi penderfynu gwneud y digwyddiad yn un am ddim unwaith eto."

I sicrhau diogelwch gwylwyr bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5pm i 9pm -  Oystermouth Road/Mumbles Road o Glamorgan Street i Brynmill Lane a Pantycelyn Road rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road.

Darperir y digwyddiad gan y cyngor a chaiff ei gefnogi gan Nathaniel Cars a Choleg Gŵyr Abertawe.

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith