Gwylwyr tân gwyllt Abertawe'n cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw
Mae'r bobl niferus sy'n edrych ymlaen at fynd i sioe tân gwyllt drawiadol Abertawe ar 12 Tachwedd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw.
Disgwylir i filoedd fwynhau'r arddangosfa am ddim a drefnir gan Gyngor Abertawe ar safleoedd agored, eang a diogel traeth Abertawe a'r prom.
Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosib yn gwirio'r trefniadau, yn cynllunio ymlaen llaw ac yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer y dechrau.
Disgwylir i'r digwyddiad gael ei gynnal rhwng 6pm ac 8pm a bydd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau gan gynnwys y Rec, y Ganolfan Ddinesig a meysydd parcio arferol canol y ddinas.
Bydd stondinau bwyd a diod ar agor o 6pm yn ardaloedd y Ganolfan Ddinesig a'r Senotaff.
Bydd digon o ddewisiadau bwyd a diod drwy gydol y digwyddiad, gan gynnwys byrgers o safon, cerfdy rhost traddodiadol, mochyn rhost, cŵn poeth, pizza o ffwrn tân coed, pysgod a sglodion a danteithion melys gan gynnwys teisennau, losin, crêpes a thoesenni.
Disgwylir i'r tân gwyllt gychwyn am 7pm. Bydd modd gweld yr arddangosfa o gwmpas y bae - os bydd y tywydd yn caniatáu - gyda'r golygfeydd gorau ar gael ar y prom a'r traeth rhwng y Ganolfan Ddinesig a Brynmill Lane.
Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae ein digwyddiad tân gwyllt blynyddol bob amser yn boblogaidd iawn a gwyddwn fod miloedd yn bwriadu dod iddo.
"Bydd ffordd ar gau a bydd llawer o bobl yn ceisio cyrraedd meysydd parcio a mannau ffafriol. Gofynnwn i bawb fod yn ymwybodol o hyn ac i'w ystyried wrth gynllunio'u taith er mwyn iddynt gyrraedd mewn pryd a pheidio â cholli'r arddangosfa.
"Gofynnwn hefyd i bobl wneud popeth y gallant i gadw'u pellter oddi wrth eraill - mae COVID gyda ni o hyd ac er y caniateir digwyddiadau fel hyn, rydym am wneud popeth y gallwn i helpu i atal ymlediad y feirws.
Bydd angen cau rhan o Oystermouth Road i draffig, dros dro ac i'r ddau gyfeiriad, ar gyfer y digwyddiad. Bydd hyn yn helpu gyda diogelwch gwylwyr a chaiff ei chau rhwng y Ganolfan Ddinesig a Brynmill Lane o 5pm i 9pm.
Bydd gwylwyr sy'n cyrraedd ar ôl 5pm yn dal i allu mynd i'r meysydd parcio yn y Ganolfan Ddinesig a Paxton Street, oni bai eu bod yn llawn. Bydd maes parcio'r Rec yn hygyrch drwy Brynmill Lane.
Mae trefniadau traffig yn cynnwys dargyfeiriad i gyfeirio traffig Oystermouth Road drwy Uplands a Sketty Lane.
Ar ddiwedd y digwyddiad, cynghorir gwylwyr i ganiatáu amser ychwanegol i deithio oherwydd disgwylir i'r ffyrdd fod yn brysur. O ystyried y nifer mawr o gerbydau a fydd yn debygol o adael yr ardal ar yr un pryd, disgwylir cryn dipyn o draffig.
Rhagor: www.croesobaeabertawe.com/events/arddangosfa-tan-gwyllt-bae-abertawe/
Llun:Noson Tân Gwyllt Abertawe yn 2019.