Mae eich hoff arddangosfa tân gwyllt yn dychwelyd ar 5 Tachwedd
Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym ar gyfer arddangosfa tân gwyllt flynyddol y cyngor.
Mae cannoedd o'r tocynnau fforddiadwy - sy'n dechrau o £10 ar gyfer teulu o bump - wedi cael eu gwerthu.
Disgwylir i filoedd o bobl ddod i faes chwaraeon San Helen i wylio'r arddangosfa arbennig ar thema Noson Gyda'r Sêr nos Sul.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Byddwn yn annog i'r rheini sy'n bwriadu dod brynu eu tocynnau cyn gynted â phosib a manteisio ar y cynnig ar gyfer tocynnau ymlaen llaw."
Bydd y gatiau'n agor am 5pm. Gall amseroedd y sioe newid ond bydd digwyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol: 17.00 a 19.20 - Band Pres Pen-clawdd; 17.35 - perfformiad Anna ac Elsa a sgwrs; 18.00 - cerddoriaeth o'r ffilmiau; 19.00 - tân gwyllt; 20.00 - diwedd.
Disgwylir i'r ffyrdd fod yn brysur iawn cyn ac ar ôl y digwyddiad felly cynlluniwch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Ni fydd y ffyrdd ar gau am gyfnod hir, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib. Gosodir arwyddion sy'n dangos llwybrau amgen.
Bydd gan y maes ardal wylio hygyrch gyda chyfleusterau toiled anabl. Bydd toiledau anabl eraill ar gael hefyd.
Cynhelir y digwyddiad, hyd yn oed os bydd yn glawio. Os bydd y tywydd yn rhy wyntog neu os bydd gwelededd yn wael o ganlyniad i gymylau neu niwl gall yr amseroedd newid. Bydd y cyngor yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gael gwybodaeth allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am deithio a pharcio, cau ffyrdd, gwerthu tocynnau, hygyrchedd, bwyd a diod a chwestiynau cyffredin ewch i https://www.croesobaeabertawe.com/events/arddangosfa-tan-gwyllt-bae-abertawe/