Astudiaeth i roi hwb i economi fwyd Abertawe wedi'i chwblhau
Mae astudiaeth newydd gyda'r nod o hybu economi Abertawe drwy annog busnesau a defnyddwyr i brynu cymaint o'u bwyd a diod â phosib yn lleol wedi'i chwblhau.
Mae astudiaeth newydd gyda'r nod o hybu economi Abertawe drwy annog busnesau a defnyddwyr i brynu cymaint o'u bwyd a diod â phosib yn lleol wedi'i chwblhau.
Fel rhan o astudiaeth dichonoldeb bwyd lleol Abertawe, bu Cyngor Abertawe'n gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr, Afallen, i archwilio tueddiadau cyfredol defnyddwyr a mapio cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
Roedd ymatebion i holiadur yn rhan o'r astudiaeth ar gyfer Partneriaeth Bwyd Abertawe, yn ogystal ag astudiaethau achos manwl gyda nifer o fusnesau bwyd Abertawe. Cynhaliwyd digwyddiadau yng nghanol y ddinas a Phontlliw i hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yng nghymunedau trefol a gwledig Abertawe.
Cyfrannodd sefydliadau gan gynnwys Urban Foundry a'r Open Food Network hefyd at yr astudiaeth dichonoldeb, sydd bellach wedi'i chyhoeddi gyda chyfres o argymhellion.
Mae argymhellion yr astudiaeth dichonoldeb yn cynnwys:
- Mwy o farchnadoedd ffermwyr a siopau bwyd lleol, a'r defnydd o offer digidol newydd i'w hyrwyddo'n well
- Nodi a chymryd rhan mewn diwrnodau sy'n dathlu mathau arbennig o fwyd i dynnu sylw at gynnyrch lleol
- Trefnu llinellau amser prosiectau bwyd ar gyfer y dyfodol o gwmpas digwyddiadau mawr sy'n bodoli eisoes er mwyn cynyddu cyfranogiad posib cymunedau
Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae gan Abertawe gynifer o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol gwych yn ei chymunedau gwledig a threfol, ond mae angen gwneud mwy i'w hyrwyddo a'u dathlu.
"Bydd yr astudiaeth hon yn helpu i wireddu'r nod hwnnw drwy nodi'n well nifer a lleoliadau'r busnesau hyn ac yna annog cynifer o ddefnyddwyr a busnesau lleol eraill â phosib i brynu eu bwyd a'u diod ganddynt.
"Byddai mwy o wariant mewn busnesau o'r math hwn yn rhoi hwb pellach i economi'r ddinas gan hefyd helpu i leihau ein hôl troed carbon drwy leihau pellteroedd y gadwyn gyflenwi.
"Gan weithio'n agos gyda chydlynydd bwyd lleol, bydd Partneriaeth Bwyd Abertawe'n ceisio gwneud hyd yn oed mwy o gynnydd cyn bo hir drwy fwrw ymlaen ag argymhellion yr astudiaeth dichonoldeb."
Gellir gweld copi o'r astudiaeth a'i hargymhellion yma.
Prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yng Nghyngor Abertawe.
Dyfarnwyd cyllid hefyd o Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor i ddal y wardiau trefol.