Y ddinas yn parhau i anrhydeddu personél sy'n gwasanaethu
Mae Abertawe'n gwneud mwy nag erioed o'r blaen i anrhydeddu'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain - a bydd cyfle mawr arall y penwythnos hwn i'r cyhoedd ddangos ei gefnogaeth.
Dethlir Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn ar ddiwrnod cyntaf digwyddiad deuddydd Sioe Awyr Cymru a gynhelir gan Gyngor Abertawe.
Bydd Pentref Cyn-filwyr, gyda chefnogaeth Y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cynnal elusennau sy'n berthnasol i wasanaethu. Bydd pabell fawr yno hefyd, lle gall cyn-filwyr sgwrsio, ymlacio a cheisio cyngor arbenigol yn breifat dros baned o de neu goffi.
Mae digwyddiad y sioe awyr yn agos at ddyddiad Wythnos Lluoedd Arfog y DU a gall ymwelwyr â'r sioe awyr ddathlu'r cyfraniadau a wneir i'r DU gan y rheini sydd eisoes yn gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Disgwylir i'r gweithgareddau ddydd Sadwrn gynnwys seremoni ar lwyfan am ganol dydd ac adloniant.
Croesewir pob cyn-filwr. Anogir y cyhoedd i ddod a dangos eu cefnogaeth.
Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o sut mae'r cyngor a'r gymuned leol yn gwerthfawrogi ymdrechion personél y lluoedd arfog.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n fraint gallu dathlu'r gwaith angenrheidiol a wneir eisoes ac yn y gorffennol gan bersonél gwasanaethau'r genedl."
Meddai Wendy Lewis, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor, "Rwy'n annog pawb sy'n mynd i Sioe Awyr Cymru y penwythnos hwn i ddangos eu cefnogaeth trwy fynd i'r Pentref Cyn-filwyr ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau seremonïol ddydd Sadwrn, os gallant wneud hynny."
Ym mis Tachwedd, i nodi Dydd y Cadoediad a Dydd y Cofio, cynhaliwyd Gŵyl y Cofio'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn Neuadd Brangwyn. Roedd uwch-weithwyr y cyngor ymhlith y rheini a aeth i wasanaeth ger y Senotaff.
Cynhaliwyd seremoni Poppies to Paddington yng Ngorsaf Drenau Abertawe a chafwyd tawelwch yn yr adeiladau dinesig ar gyfer distawrwydd dwy funud cenedlaethol. Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch ar nosweithiau 11 a 12 Tachwedd.
Cynhaliwyd Gorymdaith Goffa'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn Stryd Rhydychen, Abertawe, a chafwyd Gwasanaeth Coffa yn Eglwys y Santes Fair.
Dathlwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 29 Mehefin. Cafwyd seremoni yn Neuadd y Ddinas ac roedd yr adeilad wedi'i oleuo'n goch, gwyn a glas.
Ar 10 Gorffennaf, bydd rhai o gyn-filwyr byw olaf Ail Ryfel Byd y rhanbarth a'u teuluoedd yn mynd i'r Plasty ar gyfer digwyddiad a gynhelir gan yr Arglwydd Faer Paxton Hood-Williams.
Yn y cyfamser, mae'r cyngor wedi dod i'r adwy i ddiogelu dyfodol cofebau rhyfel yn Abertawe - ac mae'r cyngor yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Mae gwefan y cyngor yn cyfeirio at amrywiaeth eang o wasanaethau a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.