Toglo gwelededd dewislen symudol

Allwch chi gynnig cartref i blentyn yn 2022?

Dywed athro sydd hefyd wedi dod yn ofalwr maeth fod maethu'n un o'r pethau mwyaf gwerth chweil y mae wedi'i wneud ac mae'n annog eraill i feddwl am ymrwymo i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Foster carer Dafydd Howells

Foster carer Dafydd Howells

Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, mae Cyngor Abertawe'n apelio at breswylwyr i ystyried dod yn ofalwr maeth yn 2022.

Dechreuodd Dafydd Howells faethu bron dwy flynedd yn ôl ac mae hefyd yn athro amser llawn ers 20 mlynedd. Ei swydd fel athro oedd wedi'i ysbrydoli i ddod yn ofalwr maeth.

Dywedodd fel athro ei fod yn gweld yr effaith y gall maethu ei chael ar fywydau plant pan oeddent yn byw mewn cartref gyda dylanwad cadarnhaol.

Ychwanegodd, "Mae maethu'n rhywbeth roeddwn i wedi ystyried ei wneud flynyddoedd lawer yn ôl ond gwnes i erioed unrhyw beth amdano. Un diwrnod, roeddwn i'n sgwrsio â chydweithiwr yn yr ysgol a oedd hefyd yn maethu, a phenderfynais fod yr amser wedi cyrraedd i fi archwilio fy niddordeb. Gwelais wybodaeth am un o nosweithiau agored maethu'r awdurdod lleol, a phenderfynais fynd iddi i gael rhagor o wybodaeth. Mae pawb yn gwybod y gweddill."

Ar hyn o bryd, mae angen mwy o ofalwyr maeth ar wasanaeth maethu nid-er-elw'r cyngor i ofalu am blant a phobl ifanc lleol. Mae llawer o fuddion i faethu yn eich awdurdod lleol, fel mae Dafydd yn esbonio,

"Drwy faethu gyda'r awdurdod lleol, rwy'n teimlo y gallaf helpu'r bobl ifanc yn y gymuned lle rwy'n byw drwy gynnig amgylchedd diogel, cadarn a chalonogol lle gallant ffynnu.

"O ddydd i ddydd mae gen i weithiwr cymdeithasol goruchwyliol sy'n gallu fy helpu a'm cefnogi drwy roi cyngor a hyfforddiant, yn ogystal â'm cefnogi gydag anghenion y bobl ifanc dan fy ngofal

"Hefyd, yn ogystal â'r hyfforddiant cychwynnol sydd ei angen, maent hefyd yn darparu rhaglen hyfforddiant barhaus sy'n fy helpu i ddatblygu yn ogystal â gwella'r gofal y gallaf ei roi."

Mae llawer o ofalwyr maeth yn cyfeirio at faethu fel un o'r pethau mwyaf gwerth chweil y maen nhw wedi'i wneud - ac nid yw Dafydd yn wahanol.

Meddai, "Mae'n anodd iawn esbonio buddion maethu... y teimlad gorau yw gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn. Rwy'n cynnig seibiannau byr a maethu tymor hir, ac mae wedi bod yn hyfryd cynnig cefnogaeth i deuluoedd ar ffurf seibiant, yn ogystal â chynnig lleoliad tymor hir a sefydlogrwydd.Ar hyn o bryd rwy'n maethu bachgen 17 oed, dwi wedi bod yn ei faethu ers sawl blwyddyn, ac mae'n bleser ei weld yn datblygu'n ddyn ifanc cyfrifol, a'i baratoi at annibyniaeth pan fydd yn barod am hynny.

"Dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn hawdd o bell ffordd, ond dwi erioed wedi gwneud rhywbeth mor wobrwyol.Fel gofalwr maeth, rydych yn cael y cyfle i gyfoethogi bywyd plentyn."

Er bod maethu'n rhywbeth sy'n rhoi boddhad, gall fod heriau ar brydiau. Fodd bynnag, mae Dafydd yn rhannu ei gyngor ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwr maeth.

"Mae ambell agwedd ar ddod yn ofalwr maeth y gallwch baratoi ar ei chyfer, ac mae agweddau eraill does dim modd paratoi ar eu cyfer. Mae sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant diweddaraf yn ffordd wych o baratoi gorau y gallwch ar gyfer cynifer o sefyllfaoedd gwahanol â phosib. Ni fydd pob diwrnod yn her, ond byddwch yn sicr yn wynebu ambell her annisgwyl ar hyd y ffordd. Bydd cefnogaeth eich teulu a'ch ffrindiau yn eich helpu'n fawr, yn enwedig o ran gwarchod plant a chynnig clust i wrando pan fydd ei hangen arnoch.

"Mae'n rhaid i chi allu caru plant yn ddiamod - yr adegau anoddaf i garu'n ddiamod yw pan fydd plentyn yn ceisio'ch gwthio i ffwrdd. I'ch helpu i ymdopi â'r cyfan, mae angen synnwyr digrifwch yn bendant. Peidiwch ag ofni gofyn am help. Dydy gofyn am help ddim yn golygu eich bod wedi methu; mae'n golygu eich bod am wneud y gorau. Yn olaf, prynwch beiriant golchi llestri! Doeddwn i erioed wedi ystyried yr holl lestri brwnt y byddai angen eu golchi!"

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu a dilyn camre Dafydd i ddod i ddigwyddiad gwybodaeth rhithwir a drefnir gan Maethu Cymru Abertawe.

Nos Fercher 19 Ionawr bydd y tîm yn cynnal digwyddiad ar-lein ar Microsoft Teams rhwng 6pm a 7pm. Bydd cyfle i gael rhagor o wybodaeth a chwrdd â staff a gofalwyr maeth.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Plant, Elliot King, "Mae gwir angen mwy o ofalwyr maeth arnom, felly os oes gennych ddiddordeb mewn maethu yna cadwch le ar y digwyddiad gwybodaeth rithwir neu cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe'n uniongyrchol. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen teuluoedd maethu newydd arnom sydd ag ystafelloedd gwely sbâr a'r hyn y mae ei angen i newid bywydau plant a phobl ifanc lleol. Os ydych chi'n barod i dderbyn y rôl gwerth chweil hon, chi yw'r person rydym yn chwilio amdano ym Maethu Cymru Abertawe. Gall fod yn ddechrau ar bennod newydd yn eich bywyd chi a bywyd plentyn.

"Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn cyfleoedd hyfforddiant rhagorol, cefnogaeth 24/7 heb ei hail, a thaliadau ariannol hael. Yn ogystal, rydych chi'n dod yn rhan o gymuned ehangach gydag aelwydydd maethu eraill."

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch fosterwales.swansea@swansea.gov.uk gan ddarparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth, ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i www.swansea.forsterwales.gov.wales 

Close Dewis iaith