Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+
Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi ymgyrch sy'n annog pobl o'r gymuned LHDTC+ i ystyried maethu neu fabwysiadu.
Cynhelir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ rhwng 4 a 10 Mawrth, ac mae'n cael ei rhedeg gan New Family Social, y rhwydwaith ar gyfer teuluoedd mabwysiadol a maeth LHDT+.
Mae'r ymgyrch flynyddol yn annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol+ i ystyried mabwysiadu a maethu, ac mae'n dathlu cyflawniadau'r rheini sydd eisoes yn gwneud hynny.
Addaswyd diwethaf ar 07 Mawrth 2024