Ydych chi'n ystyried maethu? Dewch i gael sgwrs â ni.
Gall pobl sy'n ystyried dod yn ofalwyr maeth ddod i ddigwyddiad fis nesaf er mwyn sgwrsio wyneb yn wyneb â phobl sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn Abertawe.
Mae Maethu Cymru Abertawe, gwasanaeth maethu'r Cyngor, yn awyddus i siarad â darpar ofalwyr maeth ac mae'n cynnal noson wybodaeth yn ystafell gymunedol Tesco Llansamlet nos Fercher 13 Mawrth rhwng 6pm a 9pm.
Does dim rhaid cadw lle a gall pobl alw heibio i gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau a chael rhagor o wybodaeth am y broses faethu.
Bydd aelodau o'r tîm maethu yn siarad am y rôl, y broses asesu, y meini prawf, y sgiliau a'r profiad a'r cymorth y mae eu gofalwyr maeth yn ei dderbyn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth neu os hoffech siarad ag aelod o ddim Maethu Cymru Abertawe, ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i: www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru