Daeth y cwpwl yn ofalwyr maeth yn ystod y pandemig
Mae cwpwl o Abertawe a wnaeth benderfynu dod yn deulu maeth yn ystod pandemig COVID yn dweud ei fod yn un o'r pethau mwyaf gwobrwyol maent erioed wedi'i wneud.
Oherwydd patrymau gwaith newidiol a threulio mwy o amser gartref, penderfynodd Clare a Gareth Pritchard ei fod yn bryd iddyn nhw chwarae eu rhan wrth helpu i roi gwell dyfodol i blant yn y ddinas.
Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau Pythefnos Gofal Maeth (9 i 22 Mai), ac mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'r ymgyrch genedlaethol i gydnabod ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth aci amlygu'r angen am ragor o ofalwyr maeth ymroddedig.
Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru faethu gyda'u hawdurdod lleol yn ystod pandemig COVID-19.
Maent yn cynnwys Clare a Gareth, a ddaeth yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Abertawe ym mis Gorffennaf 2021.
Meddai Clare: "Mae Gareth yn gweithio yn ei gymuned leol, ac yn ystod COVID, fe drafodon ni'r heriau yr oedd plant yn ein cymuned yn eu hwynebu. Sbardunodd hwn y sgwrs am faethu ac wrth i amser fynd yn ei flaen cynyddodd y sgyrsiau hynny. Mae ein plant hŷn eisoes wedi gadael gartref, felly roedd gennym ystafell wely sbâr. Penderfynom gysylltu â Chyngor Abertawe i gael rhagor o wybodaeth. Gwnaethom gymryd rhan yn eu digwyddiad gwybodaeth rhithwir...ac mae pawb yn gwybod y gweddill!"
"Yn ddi-os, mae 'na bobl a fyddai wedi cael eu digalonni gan y ffaith bod y cyfan yn rhithwir. Gan nad oedd hi'n bosib cynnal ymweliadau cartref, roedd yn rhaid cynnal yr asesiad cyfan drwy Microsoft Teams, rhywbeth sydd wedi dod yn gyfarwydd i lawer o bobl."
Ond ni wnaeth hyn rwystro Clare a Gareth rhag dod yn ofalwyr maeth.
"Fel y rhan fwyaf o bobl, roeddem yn gweld bod ein gwaith wedi symud ar-lein yn ystod COVID-19, felly roedd yn iawn cael ein hasesu fel hyn. Os rhywbeth, roedd yn ein gwneud ni'n fwy cyfforddus gan ein bod ni yn ein hamgylchoedd ein hunain ac yn ei gweld hi'n hawdd gweithio o gwmpas y gwaith a'r teulu."
Mae cefnogaeth i ofalwyr maeth a'u teuluoedd yn hanfodol ond gyda'r holl gyfyngiadau ar y pryd, roedd 'na bryder y byddai pobl yn teimlo'n ynysig a heb gefnogaeth. Ond nid yw hyn yn rhywbeth y teimlai Clare a Gareth drwy gydol eu hasesiad.
"Mae'n bwysig iawn cael cefnogaeth gan eich ffrindiau a'ch teulu pan rydych yn ofalwyr maeth. Mae'r daith faethu'n brofiad llawn cyfnewidiadau. Pan brofon ni heriau, rydym wedi gweld bod ein gweithiwr cymdeithasol a'r timau estynedig wedi bod mor gefnogol. Mae'n bwysig iawn cyfleu'r hyn sydd ei angen arnoch a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi."
Mae bachgen bach wedi'i leoli â Clare a Gareth ar hyn o bryd, ac maen nhw'n dweud eu bod nhw eisoes wedi profi boddhad mawr wrth faethu.
"Mae cynifer o fuddion wrth faethu, mae'r rhain i'w gweld yn y pethau bach beunyddiol y gallwn ni i gyd eu cymryd yn ganiataol. O wylio plentyn yn peidio â bod mor wyliadwrus ac yn ymddiried mewn oedolion, i'w weld wedi'i gyffroi pan fyddwch chi'n sefyll ar linellau ochr ei gêm rygbi.
"Yn ein cymunedau mae llawer o blant y mae angen cefnogaeth arnynt. Pan fyddwch yn cynnig eich cartref i roi amgylchedd diogel iddyn nhw i ffynnu, rydych chi hefyd yn dysgu perthnasoedd cadarnhaol iddyn nhw. Rydych chi'n helpu'r plentyn hwn nawr ond rydych hefyd yn effeithio ar ei ddyfodol. Bydd yr hyn a wnewch i gefnogi'r plentyn hwn nawr yn effeithio ar ei holl berthnasoedd yn y dyfodol, o'i bartner, i blant, i berthnasoedd yn y gwaith ac yn y gymuned.
"Penderfynon ni fel teulu gynnig ein cartref i gefnogi plentyn ac mae wedi bod yn heriol ond yn un o'r pethau gorau rydym wedi'i wneud."
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn yn sicr, ond rydym wedi gweld cymaint o dosturi ac anhunanoldeb gan ein gofalwyr maeth sydd wedi agor eu drysau i blant ac wedi rhoi cartref diogel iddynt yn ystod pandemig COVID, pan roedd gweddill y wlad yn ei chael hi'n anodd gweld eu teuluoedd eu hunain hyd yn oed.
"Mae maethu wedi gorfod addasu i'r amgylchiadau rhyfedd yr oeddem i gyd yn eu hwynebu, ac mae ein gofalwyr maeth wir wedi darparu gofal a chefnogaeth rhagorol i blant a theuluoedd yr oedd eu hangen arnynt, a hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i chi a dangos ein gwerthfawrogiad am bopeth maent wedi'i wneud."
Mae Cyngor Abertawe'n un o 22 o dimau awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithio gyda'i gilydd fel Maethu Abertawe - rhwydwaith genedlaethol o wasanaethau maethu nid er elw.
Mae Maethu Cymru am annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth yn eu hawdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a theulu ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod cythryblus.
Meddai Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol, "Dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol, eich cyngor lleol sy'n derbyn plant pan fydd eu rhieni'n profi anawsterau, neu pan fydd plant yn byw mewn sefyllfaoedd camdriniol neu lle cânt eu hesgeuluso a'ch awdurdod lleol chi sy'n dod o hyd i le diogel iddynt ac sy'n gyfrifol amdanynt.
"Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael gan dîm maethu awdurdod lleol Maethu Cymru, a'i weithwyr cymdeithasol dynodedig sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd a chyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.
"Drwy faethu'n lleol, rydych yn helpu plant i aros yn eu cymuned gydag amgylchedd, acen, ysgol, iaith, ffrindiau a gweithgareddau maent yn gyfarwydd â nhw. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad, yn adeiladu sefydlogrwydd ac yn magu hyder.
"Byddem yn annog pobl i faethu gyda'u hawdurdod lleol, sy'n rhan o Faethu Cymru, sefydliad nid er elw sy'n gyfrifol am y plant yn ein gofal."
I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch faethu yn Abertawe, ewch i https://abertawe.maethucymru.llyw.cymru/