Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr yn rhannu eu munudau arbennig ar gyfer Pythefnos Maeth

Mae gofalwyr maeth yn Abertawe wedi bod yn siarad am sut y gall maethu gael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl ifanc yn ogystal â'r teuluoedd maeth sy'n gofalu amdanyn nhw.

Foster Fortnight 2024

Foster Fortnight 2024

Yr wythnos hon yw Pythefnos Maeth sy'n ceisio codi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.

Y thema eleni yw #MunudauMaeth ac mae gofalwyr gyda Maethu Cymru Abertawe, gwasanaeth maethu'r cyngor, wedi bod yn rhannu eiliadau, bach a mawr, sydd wedi gadael argraff barhaol gyda nhw.

Mae Holly Bowtell a'i theulu yn maethu ers ychydig dros flwyddyn ac mae'n dweud mai hwn yw'r penderfyniad gorau a wnaethon nhw erioed.

Meddai Holly: 'Fy hoff funud faethu, fwy na thebyg, oedd mynd â'r bachgen sydd gyda ni ar wyliau. Aethom ni i Ffrainc, a dyma'r tro cyntaf erioed iddo fod allan o'r wlad ac roedd gweld ei wyneb bach, ei wên enfawr, a pha mor gyffrous oedd e pan welodd e'r pwll nofio am y tro cyntaf, roedd y cyfan mor anhygoel, ac roedd yn gwneud y gwyliau yn arbennig iawn i bob un ohonom ni. "

Mae Claire Hyett-Evans a'i theulu yn maethu ers chwe blynedd. Fe ddigwyddodd un o'i hoff funudau maethu yn ddiweddar: "Mae'r bachgen bach rydyn ni'n gofalu amdano yn wastad wedi cael trafferthion gyda'i emosiynau - teimlo ei emosiynau, enwi ei emosiynau a gallu disgrifio sut mae'n teimlo.

"Roedd gennym ni un bach a'n gadawodd ni'n ddiweddar, ac yn naturiol achosodd hynny ofid i ni. Roedd e yno ac yn fy ngweld i'n llefain. Daeth draw ata i a dweud 'Claire, oes eisiau cwtsh arnat ti?' Pan oedd Mike, fy ngŵr, yn cerdded gydag ef i'r ysgol, dwedodd wrth Mike ei fod e'n poeni'n fawr amdana i oherwydd fy mod i'n llefain.

"Er i Mike ddweud wrtho fe fy mod i'n mynd i fod yn iawn, y diwrnod hwnnw yn yr ysgol fe ofynnodd i'w athro a allai ddewis gwobr o'r blwch gwobrwyo.

"Fe wnaeth e ddewis modrwy gummy bear i mi a phan gyrhaeddodd e adre, roedd e mor gyffrous i'w rhoi hi i mi.

"Cawsom ni gwtsh ar y soffa y noson honno. Dwedais wrtho pa mor falch oeddwn i ohono a diolches i iddo am fod mor garedig i mi. Roeddwn i mor falch ar y funud honno i feddwl ei fod e wedi gwneud tro 360 ac wedi rhoi'r cariad rydyn ni'n ei ddangos iddo fe."

Bydd pob gofalwr maeth yn sôn am wahanol fuddion maethu, yn aml mae'r rhain yn funudau bach neu gamau bach ymlaen lle mae plentyn wedi gwneud rhywbeth am y tro cyntaf. Ond yn rhy aml o lawer, nid yw pobl sydd â diddordeb mewn maethu yn gwneud hynny oherwydd eu bod nhw'n dweud na allen nhw fyth ildio'r plant.

Dwedodd Zoe Williams, gofalwr maeth 11 oed sy'n arbenigo mewn symud babanod a phlant ifanc ymlaen i'w mabwysiadu: "Mae'n torri ein calonnau bob tro y bydd baban neu blentyn yn ein gadael. Y ffordd rydw i'n delio ag e yw gwybod fy mod i wedi gofalu ac yn caru pob un ohonyn nhw am yr amser maen nhw wedi bod gyda ni, gan roi dechrau da iddyn nhw a'u paratoi ar gyfer eu symud yn ôl adref neu i'w teulu mabwysiadol."

Meddai Tracey Iturbe, sy'n maethu ers 13 mlynedd: "Fy nghyngor gorau i yw, peidiwch ag aros, ewch amdani, fyddwch chi ddim yn difaru."

Mae Maethu Cymru Abertawe yn chwilio am bobl i fod yn rhan o gymuned sy'n annog plant mewn gofal maeth i gael dyheadau uchel ac anelu at y sêr.

Meddai'r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Gofal: "Mae gofal maeth yn wasanaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ein cymuned ni. Mae gofal maeth wrth wraidd ein cymuned ni, ac rydyn ni'n falch o'n gofalwyr maeth gwych sy'n cadw plant yn agos at y bobl a'r lleoedd y maen nhw'n eu hadnabod ac yn eu caru. Y tu ôl i bob plentyn maeth llwyddiannus mae gofalwr maeth cariadus sy'n credu yn ei botensial.

"Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth rwy'n annog pawb i ystyried dysgu rhagor am ddod yn ofalwr maeth gan fod angen mwy o bobl arnom sy'n gallu darparu cartref cariadus i blant lleol. Does dim y fath beth â gofalwr maeth delfrydol ac mae cymaint o ffyrdd o faethu, mae llawer ohonyn nhw'n hyblyg a gallech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn."

Os ydych chi'n byw yn Abertawe, gallwch chi ddysgu rhagor am faethu ar wefan Maethu Cymru Abertawe: www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru. Os hoffech chi siarad ag aelod o'n tîm profiadol am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 0300 555 0111.

Close Dewis iaith