Toglo gwelededd dewislen symudol

"Roedden ni am faethu ar gyfer sefydliad nid er elw a chadw plant lleol yn eu hardal leol"

Mae gofalwyr maeth yn Abertawe yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol gan fod gwasanaethau plant yng Nghymru'n mynd drwy broses newid fawr.

Foster Swansea generic family image

Foster Swansea generic family image

Mae Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu gwasanaethau sy'n lleol, sydd wedi'u dylunio'n lleol ac yn atebol yn lleol ac o dan ei chynlluniau mae ymrwymiad clir i 'ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal'.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027 y bydd gofal i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector cyhoeddus, a sefydliadau elusennol neu nid-er-elw.

Er mwyn ateb yr her hon, mae Maethu Cymru Abertawe - sy'n rhan o'r rhwydwaith sy'n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru - yn galw ar ragor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdod lleol, ac yn annog y rheini sy'n maethu gydag asiantaeth er elw ar hyn o bryd i drosglwyddo i'w tîm awdurdod lleol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, Louise Gibbard, "Mae polisi Llywodraeth Cymru i ddileu elw yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirbarhaol  i ofal plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd yn fuddiol i bobl ifanc sy'n derbyn gofal heddiw ac yn y dyfodol.

"Mae bod yn ofalwr maeth i'ch awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision - o gefnogaeth a hyfforddiant helaeth i'r tîm maethu a'r gweithwyr cymdeithasol plant i gyd yn gweithio yn yr un adeilad. Ond yn bwysicaf, mae'n rhoi'r opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol. Mae'n gadael iddynt aros yn agos i deulu, ffrindiau a'u cymuned leol.

"Mae cymunedau lleol yn allweddol wrth gynyddu ein carfan o ofalwyr maeth awdurdod lleol, p'un a ydynt yn bobl sy'n cynnig eu hunain sydd heb faethu o'r blaen, neu ofalwyr maeth asiantaethau maethu annibynnol yn cymryd y cam i drosglwyddo. Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu neu drosglwyddo, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Abertawe am sgwrs anffurfiol."

Yng Nghymru, mae 79% o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu yn cael eu maethu y tu allan i'w hardal leol, ond mae 84% o'r rheini sy'n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros o fewn eu hardal leol, yn agos i gartref, yr ysgol, teulu a ffrindiau.

Roedd Paul and Sharron Hammond yn maethu'n wreiddiol gydag asiantaeth faethu annibynnol i ddechrau cyn iddynt benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe yn 2014.

Meddai Paul, "Dechreuon ni faethu 13 blynedd yn ôl ar ôl i'm brawd a'm chwaer yng nghyfraith a oedd eisoes yn maethu, greu tipyn o argraff arnom. Cawsom ein synnu gan y newidiadau cadarnhaol y gallem eu gweld yn yr arddegwyr roedden nhw'n gofalu amdanynt.  Roeddwn wedi colli fy swydd am y trydydd tro ac roeddem yn chwilio am her newydd. Ymunom â'r un asiantaeth faethu annibynnol ag roedd fy mrawd a'm chwaer yng nghyfraith yn maethu ar ei chyfer. Gofalom am fachgen 12 oed am bedair blynedd cyn i ni ddilyn fy mrawd a'm chwaer yng nghyfraith a throsglwyddo i'r awdurdod lleol. Roedden ni am faethu ar gyfer sefydliad nid er elw a chadw plant lleol yn eu hardal leol. Roedd y plentyn 16 oed roeddem yn ei faethu ar y pryd wedi trosglwyddo gyda ni hefyd.

Ychwanegodd Sharron, "Rydym yn mwynhau maethu ar gyfer ein hawdurdod lleol ac ers i ni drosglwyddo, mae fy chwaer wedi dod yn ofalwr maeth hefyd ar gyfer Maethu Cymru Abertawe. Rydym wedi mwynhau'r hyfforddiant a'r gefnogaeth rydym wedi'u cael. Rydym wedi gofalu am blant iau ac arddegwyr ac rydym nawr yn canolbwyntio ar ddarparu lleoliadau rhiant a phlentyn. Rydym yn credu ei fod yn bwysig iawn cadw plant yn eu hardal leol."

"Dydyn ni ddim wedi difaru am drosglwyddo i'r awdurdod lleol a byddem yn annog holl ofalwyr maeth yr asiantaethau maethu annibynnol lleol i feddwl am ymuno â ni."

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

Close Dewis iaith