Toglo gwelededd dewislen symudol

Freedom Leisure yn ennill gwobrau nofio mawreddog

Mae ymddiriedolaeth nid er elw Freedom Leisure wedi bod yn fuddugol mewn categori proffil uchel yng Ngwobrau Nofio Cymru eleni, sef Darparwr Dysgu Nofio y flwyddyn.

Swim Wales Awards

Swim Wales Awards

Mae Freedom, sy'n rheoli 29 canolfan hamdden ar draws Cymru gan gynnwys lleoliadau'r cyngor fel LC Abertawe, hefyd wedi ennill y Wobr Gynaliadwyedd.
Nofio Cymru yw corff llywodraethu cenedlaethol y wlad ar gyfer campau dŵr. 

Mae gan Freedom Leisure dros 12,000 o nofwyr sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dysgu Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr sy'n addysgu plant ac oedolion.

Meddai'r Prif Swyddog Gweithredol, Ivan Horsfall Turner, "Rydym yn darparu profiad gwych ac yn cefnogi pobl i fagu hyder wrth ddysgu sgil bywyd sy'n arwain at foddhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr."

Roedd y wobr gynaliadwyedd yn canolbwyntio ar fesurau Freedom i leihau'r defnydd o ynni. Mae hyn wedi arwain at arbediad ynni sy'n gyfwerth â chynnal canolfan hamdden maint canolig gyda phwll nofio am bedair blynedd. Roedd allyriadau carbon wedi gostwng 395 tunnell. 

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Llongyfarchiadau i'n partneriaid Freedom Leisure.

"Rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ein canolfannau hamdden ac rydym yn falch iawn eu bod yn cael eu defnyddio'n feunyddiol gan breswylwyr ac ymwelwyr."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Chwefror 2025