Talebau costau byw wedi'u hanfon at dros 1,400 o aelwydydd
Anfonwyd talebau sy'n werth £200 yr un at 1,420 o aelwydydd cymwys yn Abertawe na wnaethant hawliad am daliad cymorth tanwydd dros y gaeaf.
Mae'r talebau, a anfonwyd gan Swyddfa'r Post, yn dilyn llythyrau a anfonwyd gan Gyngor Abertawe i bob un o'r aelwydydd hyn a oedd yn esbonio pam eu bod yn derbyn taleb a sut i'w chyfnewid am arian.
Gwnaeth dros 27,000 o aelwydydd geisiadau llwyddiannus i'r cyngor ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd bellach wedi cau.
Mae hyn yn golygu y talwyd bron £555,000 i breswylwyr a theuluoedd i'w helpu i reoli biliau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Roedden ni yma i bobl Abertawe trwy gydol y pandemig ac rydym yma iddynt trwy gydol yr argyfwng costau byw hefyd.
"Gwnaeth ein staff brosesu taliadau gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd i ymgeiswyr llwyddiannus, a gwnaethant hefyd nodi'r holl aelwydydd cymwys na wnaethant hawliad am daliad cymorth tanwydd cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
"Dyma'r rheswm pam rydym wedi ysgrifennu at yr aelwydydd hyn ac mae Swyddfa'r Post wedi anfon talebau atynt y gallant eu cyfnewid am arian.
"Mae'r talebau hyn yn ddilys am fis, felly rydym yn annog unrhyw aelwyd sydd wedi derbyn un ohonynt i hawlio'r arian cyn gynted â phosib.
"Mae'r taliadau ymysg y ffyrdd niferus y mae'r cyngor yn cefnogi'n preswylwyr a'n cymuned trwy gydol yr argyfwng costau byw, sy'n effeithio ar gynifer o bobl."
Mae'r cyngor hefyd wedi sefydlu gwefan siop dan yr unto yn https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw lle gall pobl gael mynediad at amrywiaeth o gefnogaeth ac arweiniad.
Yn ogystal â gwybodaeth am daliadau y gall preswylwyr fod â hawl iddynt, mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a all gefnogi unrhyw un â phryderon o ran dyledion neu arian.
Mae adrannau eraill yn y wefan yn cynnwys syniadau ar gyfer cadw costau ynni'n isel, lleoliadau Lleoedd Llesol Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr a rhestr o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim neu â chost isel sydd ar gael ar draws y ddinas.