Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau wedi cael eu talu i helpu teuluoedd i wresogi'u cartrefi

Mae mwy na £2 filiwn wedi'i dalu i filoedd o aelwydydd yn Abertawe yr wythnos diwethaf fel rhan o gynllun i helpu pobl i wresogi'u cartrefi.

Fuel

Fuel

Mae'r cynllun cymorth tanwydd a aeth yn fyw fore dydd Llun 26 Medi yn golygu bod hawl gan aelwydydd cymwys i hawlio taliad o £200.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Chwefror y flwyddyn nesaf ac mae gwybodaeth am gymhwyster a ffurflenni cais ar gael yn awr yn abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd

Gall o leiaf 21,000 o aelwydydd yn Abertawe hawlio'r taliad i helpu i ddelio â chostau biliau tanwydd.

Mae dros 10,000 o'r aelwydydd hyn bellach wedi cael eu talu, gyda Swyddogion Cyngor Abertawe yn rhoi pob gewyn ar waith i dalu'r ymgeiswyr llwyddiannus mor gyflym â phosib.

Ariennir y cynllun - a aeth yn fyw ddydd Llun - gan Lywodraeth Cymru, a Chyngor Abertawe

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod llawer o deuluoedd yn Abertawe'n pryderu am sut y byddant yn gwresogi'u cartrefi a chael deupen llinyn ynghyd y gaeaf hwn, felly rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi.

"Derbyniom 13,000 o geisiadau am y cynllun cymorth tanwydd o fewn yr ychydig ddiwrnodau cyntaf o'r cynllun yn mynd yn fyw, gyda gwerth dros £2 filiwn o daliadau wedi'u gwneud bellach.

"Mae hyn er clod i staff y cyngor sy'n rhan o'r broses, sydd hefyd yn derbyn cannoedd o alwadau ffôn ac e-byst yn ddyddiol am y taliad hwn. Dyna pam y gofynnwn i breswylwyr am eu hamynedd wrth i'r timau weithio'n ddiflino i ateb cwestiynau a sicrhau y telir ymgeiswyr cymwys mor gyflym â phosib.

"Rydym yn ysgrifennu at yr holl aelwydydd rydym yn nodi'u bod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn yn ôl yr wybodaeth sydd gennym, ond gwyddwn y bydd pobl eraill sy'n gymwys hefyd.

"Dyna pam y byddem yn annog unrhyw un sy'n meddwl ei fod yn gymwys ond sydd heb dderbyn llythyr i fynd i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth."

Mae'r taliadau hyn yn ychwanegol at yr ad-daliad bil ynni sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a thaliad tanwydd y gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r cyngor hefyd wedi bod yn prosesu miloedd o geisiadau munud olaf yr wythnos hon ar gyfer y taliad cymorth costau byw o £150.

Mae bron £11m wedi'i dalu bellach i dros 74,000 o aelwydydd yn Abertawe fel rhan o'r cynllun hwnnw, sydd bellach wedi cau ac sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gofynnir i breswylwyr nad oeddent yn gallu cael gafael ar y cyngor ynghylch y cynllun yr wythnos diwethaf gysylltu eto'r wythnos hon.

Mae rhagor o gyngor a chymorth i breswylwyr ynghylch costau byw ar gael yn abertawe.gov.uk/helpcostaubyw