Cymorth Costau Byw
Rydym wedi llunio'r tudalennau hyn i helpu i ddarparu gwybodaeth am gostau byw. Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth pan fyddwn yn ei derbyn. Os ydych yn dal i gael trafferth gyda chostau, gallwch ddod o hyd i bobl i siarad â nhw sy'n gallu rhoi cyngor pellach i chi drwy ddefnyddio'n cyfleuster chwilio am gyngor a chefnogaeth.
Lleoedd Llesol Abertawe
Lleoedd yn Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr.
Taliadau Costau Byw ar gael
Mae taliadau ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU i helpu gyda chostau byw.
Costau ynni a biliau cartref
Cefnogaeth a chyngor ar dalu eich biliau ynni a biliau eraill y cartref.
Gweithio Abertawe
Chwilio am waith? Gallwn eich helpu chi.
Dyled a phryderon ariannol
Y peth pwysicaf i'w ystyried os ydych yn ei chael hi'n anodd yn ariannol yw a ydych yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Bwyd ac eitemau hanfodol
Darganfyddwch ble y gallwch gael mynediad at fwyd am ddim ac eitemau hanfodol eraill fel cynhyrchion mislif.
Tai
Mae cymorth ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i rywle i fyw, eich atal rhag dod yn ddigartref a'ch helpu gyda'ch rhent a biliau eraill.
Costau ysgol
Mae cymorth ar gael ar gyfer popeth sydd ei angen ar eich plentyn ar gyfer yr ysgol.
Teithio a chludiant
Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer teithio ar fysus a threnau. Rydym hefyd yn cynnig teithiau am ddim ar fysus i bawb yn ystod gwyliau'r ysgol.
Cymorth Llywodraeth Cymru gyda chostau iechyd
O brofion llygad a sbectol i gostau teithio i'r ysbyty. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru.
Gofal plant
Mae yna gynlluniau a ariennir gan y llywodraeth i helpu gyda gofal plant neu efallai fod elfen yn eich budd-dal nad ydych yn ymwybodol ohoni.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Cymerwch gip ar sut y gallwch chi fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau o amgylch Abertawe am ddim neu am gost isel.
Swyddi
Swyddi sydd ar gael gyda Chyngor Abertawe neu sefydliadau partneriaeth.
Cynhyrchion mislif am ddim
Mae cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn nifer o leoliadau o gwmpas Abertawe.
Cydlynu Ardal Leol
Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.
Wifi, cyfrifiaduron ac argraffu
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at wifi, cyfrifiaduron a gwasanaethau argraffu i aelodau llyfrgell.
Addysg i oedolion - Dysgu Gydol Oes
Bydd y broses gofrestru ar-lein ar gyfer tymor yr Hydref 2024 yn agor mewn tri cham.
Gweithred dwyllodrus
Twyll yw cynllun sydd wedi'i greu i'ch twyllo i roi eich arian, eich manylion personol neu eich nwyddau. Mae'n anodd iawn i gael y rhain yn ôl os ydych wedi'u rhoi i dwyllwyr.
Trysorau'r Tip
Mae Siop Trysorau'r Tip yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet ac mae'n cynnig amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys celfi, offer trydanol, nwyddau cartref a dillad.
Iechyd meddwl
Cefnogaeth yn y gymuned i bobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl, eu teuluoedd a gofalwyr.
Trais yn y cartref
Cam-drin yn y cartref yw pan fo unigolyn yn dioddef cam-drin corfforol, seicolegol, emosiynol, rhywiol neu ariannol gan bartner presennol, partner blaenorol neu aelod o'r teulu sy'n oedolyn.
Cewynnau golchadwy
Bydd cewynnau golchadwy yn lleihau nifer y sachau du rydych yn eu defnyddio ac yn arbed arian. A byddwn ni'n rhoi hyd at £100 i chi at gost prynu cewynnau golchadwy.
Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach
Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Cymorth costau byw Llywodraeth Cymru
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru.
Cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer costau byw
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Llywodraeth y DU. Gellir dod o hyd i fanylion taliadau costau byw yn yr adran costau cartref.
Cymorth i fynd ar-lein
Angen cymorth i fynd ar-lein? Gwnewch gais am alwad ac fe allwn ni eich cynorthwyo chi.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 27 Mehefin 2024