Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Prosiectau cyffrous yn dod i Abertawe yn 2022 a thu hwnt

Disgwylir i gynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid Abertawe'n un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi wneud hyd yn oed mwy o gynnydd yn ystod y flwyddyn newydd, diolch i gyfres o brosiectau mawr.

Wind Street CGI still

Wind Street CGI still

Mae cwblhau cam un Bae Copr newydd y ddinas, sy'n werth £135m, ymysg y prosiectau y gall preswylwyr a busnesau edrych ymlaen atynt, gydag Arena Abertawe'n bwriadu agor ei drysau ym mis Mawrth.

Mae'r perfformwyr a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer yr Arena yn cynnwys John Bishop, Alice Cooper and The Cult, Jersey Boys a Katherine Ryan. Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw gyda digonedd o wyrddni newydd a nodweddion dŵr.

Hefyd i'w gwblhau cyn bo hir yw'r gwaith gwerth £3m i drawsnewid Wind Street yn gyrchfan drwy'r dydd sy'n addas i deuluoedd. Mae palmentydd newydd ar y stryd yn ogystal â gwelyau blodau newydd, celfi stryd ac ychwanegiadau eraill i ychwanegu lliw a bywiogrwydd.

Mae'r prif waith adeiladu hefyd wedi dechrau ar ddatblygiad swyddfeydd mawr yn hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin, a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau technoleg, digidol a chreadigol unwaith y caiff ei gwblhau yr haf nesaf.

Mae Cyngor Abertawe'n arwain ar y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau hyn, ynghyd â nifer o brosiectau eraill y disgwylir iddynt gymryd camau mawr ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynnydd gyda'r cynllun i drawsnewid gerddi Sgwâr y Castell, a fydd yn cynnwys mwy o wyrddni, nodweddion dŵr newydd a lleoedd newydd i fwyta, yfed a chwrdd ag eraill pan gaiff ei gwblhau y flwyddyn nesaf.
  • Bwriad i drosglwyddo rhan allweddol o safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa i frand diodydd Cymreig o'r radd flaenaf, Penderyn, a fydd yn cynnwys distyllfa a chanolfan i ymwelwyr

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Cafwyd llawer iawn o gynnydd o ran ailddatblygu Abertawe y llynedd, drwy gydol y pandemig.

"Mae hyn yn golygu y bydd cynlluniau fel cam un Bae Copr a thrawsnewid Wind Street wedi'u cwblhau cyn bo hir, er budd ein preswylwyr a'n busnesau, a dyna yw dechrau'r stori adfywio barhaus yn unig, gyda llawer mwy o gynlluniau'n disgwyl cymryd camau mawr ymlaen yn 2022 a thu hwnt.

"Yn ogystal â'n cynlluniau ar gyfer gerddi Sgwâr y Castell, hen safle clwb nos Oceana a Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, bydd cynnydd eleni hefyd yn cynnwys datblygu cynigion mwy manwl ar gyfer ein safleoedd datblygu Adfywio Abertawe, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig a hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

"Bydd popeth sydd naill ai wedi'i gwblhau, yn parhau neu yn yr arfaeth yn cael ei gyfuno i greu mwy o swyddi, cyfleusterau o safon a chyfleoedd i bobl leol, wrth hefyd ymddwyn fel catalydd ar gyfer hyd yn oed mwy o fuddsoddiad."

Mae cynlluniau eraill sy'n cael eu harwain gan y cyngor yn cynnwys rhoi bywyd newydd i adeilad hanesyddol Theatr y Palace ar y Stryd Fawr. Disgwylir i'r adeilad ailagor y flwyddyn nesaf, a bydd y prosiect yn achub gem bensaernïol ac yn cynnig gweithle cyffrous ar arddull newydd yng nghanol y ddinas.

Bydd y cyngor hefyd yn parhau â'i gynllun i gyflwyno hwb cymunedol newydd cyfleus iawn yn hen adeilad BHS/What! yng nghanol y ddinas. Unwaith y bydd yn agor y flwyddyn nesaf, gall preswylwyr gael mynediad cyflym at wasanaethau allweddol ar draws y cyngor a sefydliadau eraill.

Disgwylir i gynnydd gael ei wneud hefyd ar gynlluniau a arweinir gan y sector preifat i drawsnewid Neuadd Albert hanesyddol y ddinas ar Cradock Street yn lleoliad cerddoriaeth ac adloniant byw, yn ogystal â mannau dynodedig newydd ar gyfer busnesau ffordd o fyw a swyddfeydd.

Close Dewis iaith