Barn y cyhoedd i lunio cynllun ar gyfer dyfodol canol dinas Abertawe
Bydd barn dinasyddion a sefydliadau Abertawe yn llunio dyfodol canol dinas sy'n esblygu'n gyflym.
Byddant yn cael y cyfle i gynnig eu barn mewn nifer o ffyrdd, gyda'u barn yn arwain at gynllun newydd gan y Cyngor a fydd yn helpu i wneud y ddinas yn lle gwell byth i fyw, gweithio, dysgu a threulio amser rhydd o safon ynddo.
Bydd y cynllun yn diweddaru ac yn disodli Fframwaith Adfywio presennol Ardal Ganolog Abertawe a roddwyd ar waith yn 2016.
Bydd yr ystod eang o gyfleoedd ymgynghori sydd ar ddod yn cynnwys gwefan ryngweithiol, digwyddiadau personol a sesiynau gyda sefydliadau sydd â'u canolfannau yn Abertawe.
Mae'r Cyngor am glywed barn pawb, o blant a phobl ifanc i bobl hŷn, preswylwyr ac ymwelwyr, myfyrwyr, buddsoddwyr a datblygwyr, busnesau, grwpiau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol.
Disgwylir i ddigwyddiadau galw heibio - y gwahoddir pawb iddynt - gael eu cynnal o 28 Mai i 1 Mehefin yn gynhwysol, gyda sesiynau ychwanegol ar 8 ac 15 Mehefin. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw. Cynhelir pob sesiwn galw heibio yn hen siop Cranes yng nghanol y ddinas, rhwng Eglwys y Santes Fair ac Eglwys Dewi Sant rhwng 10am a 4pm.
Abertawe'r Dyfodol: Cynllun Llunio Dyfodol ein Dinas - i'w ffurfio drwy gydol 2024 - bydd yn gwasanaethu fel gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer adfywiad economaidd canol y ddinas.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd ein cynllun newydd yn adeiladu ar lwyddiant ein strategaeth bresennol sydd wedi arwain at lawer o newid cadarnhaol.
"Mae gan y cyhoedd farn gref am ganol eu dinas - ac rydym am i gynifer o bobl â phosib ddweud wrthym beth yr hoffent ei gael yn yr ardal yn y blynyddoedd sy'n dod.
"Felly ewch ati i ddweud eich barn! Bydd y cynllun yn mynd â'n gwaith adfywio cyfredol sy'n werth £1bn i'r cam nesaf, gan ei wneud yn lle gwell fyth i fyw, gweithio, astudio a chwarae."
Mae'r gwaith i adfywio'r ddinas a ysgogir gan y Cyngor eisoes wedi arwain at ddatblygu Arena Abertawe, Ffordd y Brenin a Wind Street.
Mae gwelliannau pellach yn cynnwys creu rhagor o gartrefi yng nghanol y ddinas, ailagor adeilad Theatr y Palace a Neuadd Albert sydd ar ddigwydd, gwaith cyfredol i greu hwb gwasanaethau cyhoeddus sef Y Storfa, 71/72 Ffordd y Brenin a chynlluniau i wneud Sgwâr y Castell yn wyrddach ac yn fwy croesawgar.
Mae datblygwyr y sector preifat yn parhau i gyflwyno cartrefi newydd a chyfleoedd busnes.