Canlyniadau rhagorol i ddisgyblion TGAU'r ddinas
Mae myfyrwyr TGAU Abertawe'n dathlu canlyniadau heddiw sy'n llawer uwch na'r canlyniadau ar gyfer Cymru gyfan.
Mae'r ffigurau'n dangos yr enillodd 27.9% o ddisgyblion y ddinas raddau A* ac A yn eu pynciau CBAC, sydd cryn dipyn yn uwch na'r 25.1% ar gyfer Cymru gyfan.
Cyflawnodd mwy na 70% o fyfyrwyr raddau uwch A* i C mewn 31 o'r 38 o bynciau gwahanol.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Rwy'n falch iawn bod cynifer o ddisgyblion wedi gwneud cystal a bod eu gwaith caled a gwaith ein hysgolion a'n hathrawon wedi'i wobrwyo.
"Yn anffodus, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae disgyblion, eu teuluoedd, a'n hysgolion wedi wynebu tarfu sylweddol sy'n gwneud eu llwyddiannau heddiw hyd yn oed yn fwy arbennig.
"Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion, y rheini sy'n sefyll arholiadau TGAU a'r bobl ifanc sy'n dilyn llwybrau amgen a gynigir mewn llawer o'n hysgolion sy'n arwain at gymwysterau pwysig.
"Mae llawer o lwybrau ar gael i bobl ifanc yn Abertawe, boed hynny'n parhau ag addysg yn yr ysgol neu'r coleg, hyfforddiant neu brentisiaethau neu fynd ymlaen i gyflogaeth. Hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol, beth bynnag y maent yn penderfynu'i wneud."