Toglo gwelededd dewislen symudol

Canlyniadau rhagorol i ddisgyblion TGAU'r ddinas

Mae myfyrwyr TGAU Abertawe'n dathlu canlyniadau heddiw sy'n llawer uwch na'r canlyniadau ar gyfer Cymru gyfan.

GCSEs 2023 at Ysgol Bryn Tawe

GCSEs 2023 at Ysgol Bryn Tawe

Mae'r ffigurau'n dangos yr enillodd 25.4% o ddisgyblion y ddinas raddau A* ac A yn eu pynciau CBAC, sydd cryn dipyn yn uwch na'r 21.7% ar gyfer Cymru gyfan.

Cyflawnodd mwy na 70% o fyfyrwyr raddau uwch A* i C mewn 22 o'r 38 o bynciau gwahanol.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Rwy'n falch iawn bod cynifer o ddisgyblion wedi gwneud cystal a bod eu gwaith caled a gwaith ein hysgolion a'n hathrawon wedi'i wobrwyo.

"Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion, y rheini sy'n sefyll arholiadau TGAU a'r bobl ifanc sy'n dilyn llwybrau amgen a gynigir mewn llawer o'n hysgolion sy'n arwain at gymwysterau pwysig.

"Mae llawer o lwybrau ar gael i bobl ifanc yn Abertawe, boed hynny'n parhau ag addysg yn yr ysgol neu'r coleg, hyfforddiant neu brentisiaethau neu fynd ymlaen i gyflogaeth. Hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol, beth bynnag y maent yn penderfynu'i wneud."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Awst 2023