Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin - trothwyon contractau caffael

Mae llwybr caffael y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn berthnasol i unrhyw sefydliad nad yw'n Awdurdod Contractio o dan y Rheoliadau Caffael Cyhoeddus.

Trothwyon Contractau Caffael

Llwybr Caffael Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Sefydliadau Preifat

Trothwy

Gwerth Amcangyfrifedig y Contract

Gofynion / Gweithdrefn

Gofynion yr Archwiliad (Tystiolaeth)

Nwyddau a gwasanaethau

 


Yn llai na £25,000

< £25,000

Nid yw'n destun rheolau caffael, ond rhoddir ystyriaeth i werth am arian. Contractwyr i sicrhau y cafwyd y gwerth gorau am arian drwy gadw cofnodion priodol.

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris

 

£25,001 - £140,000

 

£25,001 -£140,000

Dylid cael o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr priodol; y mae'n rhaid i 1 ohonynt fod o'r ardal leol y mae angen archebu nwyddau/gwasanaethau ohoni (ymagwedd uniongyrchol h.y. drwy e-bost at ddibenion tystiolaeth).

  • Swyddogion i gyfiawnhau sut y dewiswyd cyflenwyr.
  • Dyfynbrisiau i'w cadw ar ffeil (gweler Cadw Cofnodion).
  • Dylai fod yr amserlen ar gyfer ymateb yn rhesymol ac yn gymesur â'r gwaith sydd ei angen.

Tystiolaeth o ymdrechu i geisio o leiaf 3 dyfynbris:

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris
  • Tystiolaeth o'r gwerthusiad a wnaed.
  • Tystiolaeth o hysbysu cyflenwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
  • Tystiolaeth o gontract yn cael ei roi.
  • Tystiolaeth o 1 yn cael ei ddewis o'r ardal leol, neu dystiolaeth i gefnogi pam nad yw hyn yn bosib.

£140,001 +

£140,001 +

Dylid cael o leiaf 6 dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr priodol; y mae'n rhaid i 2 ohonynt fod o'r ardal leol y mae angen archebu nwyddau/gwasanaethau ohoni (ymagwedd uniongyrchol h.y. drwy e-bost at ddibenion tystiolaeth).

  • Swyddogion i gyfiawnhau sut y dewiswyd cyflogwyr.
  • Dyfynbrisiau i'w cadw ar ffeil (gweler Cadw Cofnodion).
  • Dylai fod yr amserlen ar gyfer ymateb yn rhesymol ac yn gymesur â'r gwaith sydd ei angen.

Tystiolaeth o ymdrechu i geisio o leiaf 6 dyfynbris:

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris
  • Tystiolaeth o'r gwerthusiad a wnaed.
  • Tystiolaeth o hysbysu cyflenwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
  • Tystiolaeth o gontract yn cael ei roi.
  • Tystiolaeth o 2 yn cael ei ddewis o'r ardal leol, neu dystiolaeth i gefnogi pam nad yw hyn yn bosib.

Trothwyon Contract Caffael

Trothwy

Gwerth Amcangyfrifedig y Contract

Gofynion / Gweithdrefn

Gofynion yr Archwiliad (Tystiolaeth)

Gwaith yn unig

 


Yn llai na £25,000

< £25,000

Nid yw'n destun rheolau caffael, ond rhoddir ystyriaeth i werth am arian. Contractwyr i sicrhau y cafwyd y gwerth gorau am arian drwy gadw cofnodion priodol.

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris

£25,001 - £500,000

£25,001 - £500,000

Dylid cael o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr priodol; y mae'n rhaid i 1 ohonynt fod o'r ardal leol y mae angen archebu nwyddau/gwasanaethau ohoni (ymagwedd uniongyrchol h.y. drwy e-bost at ddibenion tystiolaeth).

  • Swyddogion i gyfiawnhau sut y dewiswyd cyflogwyr.
  • Dyfynbrisiau i'w cadw ar ffeil (gweler Cadw Cofnodion).
  • Dylai fod yr amserlen ar gyfer ymateb yn rhesymol ac yn gymesur â'r gwaith sydd ei angen.

Tystiolaeth o ymdrechu i geisio leiaf 3 dyfynbris:

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris
  • Tystiolaeth o'r gwerthusiad a wnaed.
  • Tystiolaeth o hysbysu cyflenwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
  • Tystiolaeth o gontract yn cael ei roi.
  • Tystiolaeth o 1 a ddewiswyd o'r ardal leol; neu dystiolaeth i gefnogi pam nad yw hyn yn bosib.


Dros £500,001

> £500,001

Dylid cael o leiaf 6 dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr priodol; y mae'n rhaid i 2 ohonynt fod o'r ardal leol y mae angen archebu nwyddau/gwasanaethau ohoni (ymagwedd uniongyrchol h.y. drwy e-bost at ddibenion tystiolaeth).

  • Swyddogion i gyfiawnhau sut y dewiswyd cyflogwyr.
  • Dyfynbrisiau i'w cadw ar ffeil (gweler Cadw Cofnodion).
  • Dylai fod yr amserlen ar gyfer ymateb yn rhesymol ac yn gymesur â'r gwaith sydd ei angen.

Tystiolaeth o ymdrechu i geisio leiaf 6 dyfynbris:

  • Rhoi copïau o e-byst i'r holl gyflogwyr
  • Cymariaethau/ystyriaethau pris
  • Tystiolaeth o'r gwerthusiad a wnaed.
  • Tystiolaeth o hysbysu cyflenwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
  • Tystiolaeth o gontract yn cael ei roi.
  • Tystiolaeth o 2 yn cael ei ddewis o'r ardal leol, neu dystiolaeth i gefnogi pam nad yw hyn yn bosib.
  • Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r nifer gofynnol o ddyfynbrisiau, mae'n rhaid i chi gadw tystiolaeth ategol a chofnod o'r rhesymau, wedi'u cyfiawnhau'n briodol, dros pam nad oeddech wedi gallu dod o hyd i gyflenwyr/ddarparwyr posib. 
  • Os dim ond un darparwr/cyflenwr sydd ar gael neu sy'n ymarferol (e.e. cyfarpar neu wasanaethau unigryw, arbenigol neu wedi'u teilwra, sydd ar gael gan un cwmni'n unig), mae'n rhaid cadw cofnod a thystiolaeth i esbonio a chyfiawnhau'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad nad oes unrhyw ddarparwyr amgen ar gyfer y cynnyrch neu'r fanyleb a ddymunir, ac nad oes unrhyw gystadleuaeth (profir hyn mewn archwiliadau dilynol). 

Pwyntiau defnyddiol: 

  • Annog ymgysylltu â Thîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter Cyngor Abertawe ar gyfer hyfforddiant ac i bennu targedau prentisiaeth ar gyfer contractau gwaith. 
  • Mae angen hysbysebu ar gyfer yr holl gyfleoedd am o leiaf 30 niwrnod drwy byrth tendro electronig. Mae angen i ddulliau eraill ac amserlenni fod yn rhesymol ac yn gymesur â'r gwaith sydd ei angen. 
  • Nid oes angen glynu wrth gyfnod segur. 
  • Rhaid i amrywiadau i gontract fod mewn perthynas â'r contract, megis gwaith nas rhagwelwyd. Rhaid cadw cofnod o'r holl amrywiadau a'u hawdurdodi'n briodol. Fel arweiniad, ni ddylai unrhyw amrywiad fod yn uwch na 15% o werth y contract. 
  • Darparwch holl ddogfennaeth y dystiolaeth a nodwyd yn y tabl uchod i'r Tîm Cyllid Allanol at ddibenion archwilio yn y dyfodol a gofynion cadw cofnodion.