Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Proses Pryderon Cynyddol Gweithwyr Proffesiynol Amlasiantaeth

Mae pob plentyn, person ifanc a'u teuluoedd yn unigryw ac mae ganddynt wahanol gefndiroedd, cryfderau, anghenion, pryderon a dyheadau. Mae hyn yn golygu y bydd y gefnogaeth y mae ei hangen ar blentyn wrth dyfu i fyny neu pan nad yw pethau'n mynd cystal hefyd yn unigryw iddo.

Am y rheswm hwn mae Cyngor Abertawe wedi datblygu ymagwedd sy'n bwriadu darparu'r Cymorth Cywir i blant a theuluoedd ar yr Amser Cywir. Mae'r ymagwedd hon yn gyson ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n canolbwyntio ar weithio gyda phobl mewn partneriaeth ac atal anghenion cynyddol. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Helpu pobl i ddatrys problemau a dod o hyd i'w hatebion eu hunain drwy weithio gyda'r teulu cyfan a systemau sy'n ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
  2. Darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth.
  3. Cael sgyrsiau ystyrlon â phobl am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
  4. Darparu gwasanaethau ataliol ar draws y cyngor.
  5. Sut mae adrannau a sefydliadau'n gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd ac yn datblygu cynlluniau gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
  6. Darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg neu iaith ddewisol plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe'n ymrwymedig i ddefnyddio model Signs of Safety / Lles. Ymagwedd flaengar at waith achosion amddiffyn plant yw hon sy'n seiliedig ar gryfderau, wedi'i threfnu i ystyried diogelwch ac wedi'i gwreiddio mewn partneriaeth a chydweithredu. Mae'n archwilio cryfderau a pheryglon mewn teuluoedd er mwyn sefydlogi ac atgyfnerthu sefyllfa plentyn a theulu.

Gan ddefnyddio'r fframwaith Signs of Safety/Lles a'r continwwm angen byddwn yn gweithio gyda phlant a theuluoedd i'w helpu i nodi eu hanghenion a'r gefnogaeth gywir ar eu cyfer. Mae anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn bodoli ar gontinwwm a gallai'r gefnogaeth ddod o deulu neu ffrindiau ond gallai hefyd ddod o leoedd yn eu cymunedau fel elusennau, grwpiau crefyddol, meddygon ac ysgolion. Weithiau bydd angen gwasanaethau cymorth arbenigol neu wasanaethau statudol i blant a theuluoedd ar blant a theuluoedd.