Toglo gwelededd dewislen symudol

Caffi yw'r atyniad diweddaraf mewn oriel yng nghanol y ddinas

Mae gan ganol dinas Abertawe le newydd i fwynhau coffi - a mwynhau celf arbennig.

The new Glynn Vivian cafe

The new Glynn Vivian cafe

Mae'r caffi newydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian, a gynhelir gan y cyngor.

Fe'i cynhelir gan y bobl sy'n gyfrifol am fusnes gwych HQ Urban Kitchen sydd wedi gweithredu gerllaw yn Orchard Street ers 2022 ac sydd ar agor o hyd.

Gellir cael mynediad at yr oriel am ddim ac mae'r caffi ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 10am a 4pm.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae'r cyfleuster croesawgar newydd hwn yn oriel wych Glynn Vivian yn cynnig cyfle arall i fwynhau canol y ddinas a chelf ardderchog."

Meddai rheolwr HQ Urban Kitchen, Laura Reynolds, "Rydym yn falch iawn o agor caffi newydd yn Oriel Glynn Vivian. Mae'n lleoliad diwylliannol gwych yng nghanol y ddinas."

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol. Mae'n chwarae rôl hanfodol yn ecosystem y celfyddydau ar draws Cymru a thu hwnt.

Cynhelir HQ Urban Kitchen, sydd yn hen orsaf heddlu canol dinas Abertawe, gan Urban Foundry o Abertawe, sy'n hyrwyddo economi cynhwysol, teg ac adfywiol.

Gallwch ddilyn y caffi newydd ar Instagram yn @gvgallerycafe.

Llun: Dathlu agoriad y caffi newydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Gorffenaf 2024