Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Glynn Vivian yn dod yn Oriel Gelf Noddfa gyntaf y DU

​​​​​​​Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yw'r oriel gyntaf yn y DU i dderbyn gwobr Oriel Gelf Noddfa.

Glynn Vivian Community Event

Glynn Vivian Community Event

Mae'r Gwobrau Noddfa, a gefnogir gan fudiad Dinas Noddfa'r DU, yn dathlu ymrwymiad sefydliad i sicrhau croeso cynnes a chynwysoldeb i bawb. 

Y llynedd, dathlodd Abertawe 10 mlynedd fel Dinas Noddfa, ac mae gwobr yr oriel yn helpu i ddangos cefnogaeth barhaus yr ardal i ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae'r Glynn Vivian wedi gweithio gyda Dinas Noddfa Abertawe i gynnig sesiynau celf wythnosol dan arweiniad ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches yn y gymuned leol.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae Abertawe'n ddinas groesawgar ac mae ein sector diwylliannol yn chwarae rhan enfawr yn hynny."

Cynhaliwyd digwyddiad Dinas Noddfa yn Theatr Volcano yng nghanol dinas Abertawe ar 12 Tachwedd. Yma derbyniodd yr oriel ei statws newydd yn swyddogol.

Gyda chefnogaeth grant Cymryd Rhan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfeillion y Glynn Vivian, mae'r oriel yn darparu gweithdai, digwyddiadau, adnoddau celf a deunyddiau i bobl.

Mae'r pandemig wedi arwain at greu baner croeso; mae hon wedi'i harddangos yn yr oriel a bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y flwyddyn nesaf.

Mae prosiectau eraill gan grŵp croeso'r oriel wedi cynnwys arddangosfeydd cymunedol yn y Glynn Vivian, arddangosfa fosaig yn Ysbyty Treforys a phortreadau cyfranogwyr ar hysbysfyrddau o amgylch ardal Bae Copr sy'n dod i'r amlwg yng nghanol y ddinas.

Meddai Funmilayo Olaniyan, Aelod o'r Pwyllgor Dinas Noddfa a cheisiwr lloches, "Mae'r Glynn Vivian yn gwneud gwaith gwych. Mae staff ac ymwelwyr yno'n dysgu o geiswyr lloches ac yn eu cynnwys mewn gweithgareddau creadigol."

Meddai Thanuja Hettiarachchi, ffoadur a chydlynydd rhaglen dengmlwyddiant Dinas Noddfa  Abertawe, "Mae'r Glynn Vivian yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynnwys ceiswyr noddfa yn eu holl weithgareddau."

Meddai Karen MacKinnon, curadur y Glynn Vivian, "Rydym wrth ein boddau i ddod yn Oriel Noddfa gyntaf y DU."

Meddai Siân Summers-Rees, Prif Swyddog Dinas Noddfa'r DU "Mae'r Glynn Vivian yn adlewyrchu ein cysyniad o noddfa drwy gelfyddydau'n wych."

Llun: Glynn Vivian. 2019.

Close Dewis iaith