Toglo gwelededd dewislen symudol

Sêr llythrennedd yn anelu am Lyfrgelloedd Abertawe

Mae unigolion enwog o fyd llenyddiaeth ar eu ffordd i lyfrgelloedd Abertawe'r mis hwn.

Rebecca F John

Rebecca F John

Bydd awduron, golygyddion a darlunwyr yn cynnal digwyddiadau i helpu pobl leol i wella'u sgiliau eu hunain ar gyfer byd cyhoeddi.

Mae'r rheini a fydd yn chwarae eu rhan yn rhaglen Rhowch gynnig ar... Llyfrgelloedd Abertawe - o 20-31 Mawrth - yn cynnwys Rebecca F John, awdures The Haunting of Henry Twist, nofel a gyrhaeddodd restr fer gwobr Nofel Gyntaf Costa, a Liz Hyder, awdures boblogaidd y nofel hanesyddol The Gifts.

Mae'r darlunydd Bonnie Hawkins, sydd wedi gweithio ar ddarluniau ar gyfer enwau mawr fel yr awdures Joanne Harris yn bwriadu cynnal gweithdy darlunio a fydd yn ddelfrydol i'r rheini sydd am fynd â'u celf i lefelau newydd.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Bydd ein rhaglen Rhowch gynnig ar... yn helpu pobl i danio'u creadigrwydd a bydd yn cynnig ysbrydoliaeth wych."

Bydd y rhaglen yn cynnwys ystod o wybodaeth a gweithdai sgiliau a sgyrsiau mewn llyfrgelloedd ar draws y ddinas.

Byddant yn ddelfrydol i awduron neu olygyddion sefydledig - ac i'r rheini sy'n dechrau arni ym myd cyhoeddi.

Bydd Rhowch gynnig ar... yn trefnu sesiynau dynodedig i grwpiau ysgolion.

Mae angen archebu rhai sesiynau drwy lyfrgell neu drwy e-bostio jennifer.dorrian@swansea.gov.uk.

Llyfrgelloedd Abertawe - www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloeddabertawe

Llun: Rebecca F John.

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith