Toglo gwelededd dewislen symudol

Y defnydd o hen beiriannau mewn arddangosfa gelf yn ddehongliad newydd o ailgylchu

Mae oriel yn Abertawe'n taflu goleuni ar eitemau na fyddant fel arfer yn cael eu hystyried fel celf - hen offer cartref nad oes eu hangen mwyach.

Washing Machine Art

Washing Machine Art

Gosodiad newydd gan yr artist o Abertawe, Kathryn Ashill, yw 'Unrhyw Hen Haearn', ac mae'n helpu'r ddinas i barhau i adrodd stori newid yn yr hinsawdd mewn ffordd greadigol.

Mae'n helpu i ddangos i ymwelwyr ag Oriel Glynn Vivian y ddinas sut gall celf ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mae gwaith Kathryn - sy'n cynnwys pren, paent ac elfen glywedol - yn rhan o arddangosfa Gludafael y lleoliad yng nghanol y ddinas. Mae'r sioe yn amlygu gwaith 8 artist a ddaeth at ei gilydd am y tro cyntaf drwyGymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol 2022, a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae 'Unrhyw Hen Haearn' yn cynnwys cân werin newydd gan Kathryn yn ogystal â dehongliadau ac arteffactau fel teiars treuliedig, hen beiriant golchi dillad a hen radio nad oes ei angen mwyach. Mae sachau du a sbringiau nas defnyddir hefyd.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Wrth i ni barhau â'n gwaith o fod yn sefydliad sero-net erbyn 2030, ac wrth i ni arwain y ddinas i ddod yn sero-net erbyn 2050, mae'n bwysig bod stori'r argyfwng hinsawdd yn cael ei hadrodd mewn ffordd greadigol; mae'r arddangosfa hon yn gwneud hynny i'r dim."

Meddai Kathryn Ashill, "Mae pob un ohonom yn ailgylchu erbyn hyn. Fodd bynnag, nid ffenomen newydd yw hon; yn y gorffennol, roedd y 'dyn hel rhacs' yn ymweld â'n cymdogaethau'n wythnosol.

"Byddai'n gweiddi "unrhyw hen haearn" ac yna'n casglu neu'n cymryd ein gwastraff er mwyn ei ailddefnyddio. Mae'r cysyniad yn dyddio'n ôl yn hwyrach, i gyfnod llawer cynharach."

Mae Gludafael bellach ar agor a bwriedir i'r arddangosfa fod ar agor yn y Glynn Vivian tan 10 Mawrth.

Yn ogystal â gwaith Kathryn, mae'n cynnwys arddangosfeydd gan Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas a Heledd Wyn.

Eu briff yw mynd ar drywydd gallu celf i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mae'r arddangosfa hon wedi'i chomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Glynn Vivian, a'i datblygu gyda'r curadur Louise Hobson.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian, sy'n cynnig mynediad am ddim ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am - 4.30pm.

Llun: Unrhyw Hen Haearn gan yr artist o Abertawe, Kathryn Ashill.