Toglo gwelededd dewislen symudol

£650,000 o gyllid newydd ar gyfer oriel gelf y ddinas

​​​​​​​Mae Oriel Gelf Glynn Vivian wedi llwyddo i sicrhau bron £650,000 o gyllid newydd.

Glynn Vivian

Glynn Vivian

Daeth yr arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) a'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (ARY), a bydd yn helpu ein horiel yng nghanol y ddinas i gyflwyno arddangosfeydd newydd o'r radd flaenaf ac i ymgysylltu ymhellach â chymunedau lleol.

Caiff ei drafod mewn cyfarfod o gabinet rheoli'r cyngor ar 21 Mawrth.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros ddiwylliant, cydraddoldeb a hawliau dynol, "Mae'n wych bod un o drysorau diwydiannol ein dinas wedi sicrhau'r cyllid allanol gwerthfawr hwn."

Daw bron £400,000 o'r cyllid newydd gan CCC. Bydd hyn yn caniatáu i'r oriel fod yn un o naw lleoliad rhanbarthol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd y Glynn Vivian ac orielau eraill sy'n rhan o'r rhwydwaith newydd hwn yn arddangos eitemau a fenthycwyd iddynt gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae'r arian yn caniatáu i'r oriel yn Abertawe ateb y galw o arddangos casgliadau cenedlaethol drwy wella elfennau fel rheolaethau amgylcheddol a diogelwch.

Cynigiwyd swm o £250,000 gan Gronfa Waddol 1418 NOW yr ARY.

Bydd hyn yn arwain at ddarn unigryw a gomisiynwyd gan artist a enwebwyd ar gyfer Gwobr Turner yn cael ei  arddangos yn yr oriel, gan hybu proffil byd-eang yr oriel, a phroffil Abertawe fel cyrchfan artistig. Mae'r grant yn ariannu'r prosiect yn llawn.

 

 

Close Dewis iaith