Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Glynn Vivian yn lansio canllaw ddigidol newydd i gyfoethogi ymweliadau â'r oriel

Mae'r canllaw am ddim yn ymuno â channoedd o sefydliadau diwylliannol ar draws y byd drwy ap Bloomberg Connects.

Glynn Vivian Digital Guide

Glynn Vivian Digital Guide

Mae'r Glynn Vivian wedi lansio canllaw ddigidol newydd ar Bloomberg Connects, yr ap celfyddydau a diwylliannol am ddim a grëwyd gan Bloomberg Philanthropies. Mae'r ap Bloomberg Connects, sydd ar gael i'w lawrlwyrtho ar Google Play neu'r App Store, yn gwneud y Glynn Vivian yn hygyrch ar gyfer ymweliadau ar y safle neu oddi ar y safle drwy nodweddion ffotograffig, clywedol a fideo sy'n cynnig mewnwelediad i'r arddangosfeydd, y casgliadau a'r rhaglen.

Mae cynnwys unigryw ar yr ap yn cynnwys cyflwyniad clywedol gan Peter Wakelin, mab yr artistiaid o Abertawe, Richard a Rosemary Wakelin, i'r arddangosfa Wakelin yn 25, wrth iddi ddathlu 25 mlynedd o'r wobr a sefydlwyd er cof amdanynt gyda chefnogaeth Cyfeillion y Glynn Vivian.

Gall defnyddwyr yr ap hefyd wrando unwaith eto ar sgyrsiau a thrafodaethau am arddangosfeydd y gorffennol gyda siaradwyr gwadd, artistiaid, awduron a churaduron, gan gynnwys y gyfres podlediad, Thinking Green:  Geodome talks lle mae'r artist Owen Griffiths yn defnyddio'r casgliad fel arf i archwilio'n perthynas â defnydd tir a thirwedd wrth i ni ddechrau ar y gwaith o ailystyried gardd yr oriel. 

Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian,

"Dyma adnodd gwych am ddim a fydd yn caniatáu i ni daflu goleuni ar y casgliad, arddangosfeydd sydd ar ddod a'n rhaglenni dysgu ac ymgysylltu mewn ffordd greadigol. Bydd yn ein galluogi i ymgysylltu â chynulleidfa fyd-eang a rhannu'r holl bethau gwych sydd gennym i'w cynnig, yn ogystal â rhannu mewnwelediadau nad ydym wedi'u rhanni'n flaenorol a gwybodaeth berthnasol i gynulleidfaoedd llawer ehangach."

Mae Bloomberg Connects yn cynnig canllawiau digidol am ddim i sefydliadau diwylliannol ar draws y byd. Mae llwyfan yr ap yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Bloomberg Philanthropies i gefnogi arloesedd digidol yn y celfyddydau. Mae Bloomberg Connects yn ei gwneud hi'n hawdd ymgysylltu â chelfyddydau a diwylliant drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol pan fyddwch yn ymweld yn bersonol, neu ar unrhyw bryd ac o unrhyw leoliad. Gyda chynnwys deinamig sy'n unigryw i bob leoliad, mae'r ap yn darparu amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys fideo, sain a thestun; sylwebaeth arbenigol; a mapiau fel y gallwch ddod o hyd i'ch ffordd. Dilynwch Bloomberg Connects ar Instagram, Facebook ac X i gael y diweddaraf am lansio canllawiau newydd, uchafbwyntiau arddangosfeydd a mwy.

Mae'r ap Bloomberg Connects ar gael i'w lawrlwythno o Google Play neu'r Ap Store.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Gorffenaf 2024