Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i osod paneli lliw aur ar yr Arena bron â chael ei gwblhau

Mae'r gwaith i osod paneli lliw aur o gwmpas ar yr Arena bron â chael ei gwblhau.

Gold panels at arena

Gold panels at arena

Mae dros 1,600 o baneli wedi'u gosod - a phob un yn cynnwys goleuadau LED er mwyn gallu cynnal arddangosfeydd o gwmpas yr atyniad.

Mae'n garreg filltir arall ar gyfer ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m, sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwyr datblygu, RivingtonHark.

Bydd y gwaith i adeiladu'r ardal, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach eleni, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma garreg filltir bwysig arall i ardal cam un Bae Copr a fydd yn werth cannoedd o swyddi a £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

"Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud bob dydd. Mae hyn yn cynnwys plannu coed a gwyrddni arall yn y parc arfordirol 1.1 erw ar bwys yr Arena a chynnydd mawr yn y gwaith i godi'r bwyty newydd yn y parc a gaiff ei redeg gan fusnes o Abertawe.

"Mae tenantiaid a gweithredwyr yr arena - Ambassador Theatre Group - hefyd wedi dechrau cyhoeddi enwau'r rheini fydd yn perfformio yn yr arena, gan helpu i gynyddu'r cyffro cyn cyhoeddi'r brif act gerddorol agoriadol.

"Efallai fod pobl sy'n cerdded, yn beicio neu'n gyrru ar hyd Oystermouth Road hefyd wedi gweld y gwyrddni ychwanegol sydd wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar wrth ymyl y ffordd, a bydd wal fyw hefyd yn cael ei chyflwyno gerllaw cyn bo hir.

"Mae'r arena'n creu tirnod trawiadol newydd ar ddinaswedd drawsffurfiedig Abertawe. Bydd yn cyfuno â llawer o brosiectau eraill i sicrhau bod ein dinas yn adfer yn gyflym o effaith economaidd y pandemig.

"Mae cam un Bae Copr wedi cael ac yn parhau i gael ei gyflwyno er gwaethaf her COVID, wrth baratoi'r ffordd ar gyfer cam dau a fydd yn cael ei ddatblygu gan Urban Splash, ein partner datblygu o ddewis, a fydd yn adfywio sawl safle allweddol yn Abertawe."

Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys pont newydd dros Oystermouth Road a fydd yn elwa'n fuan o gynllun goleuo parhaol. Mae fflatiau'n cael eu hadeiladu hefyd, ynghyd â lleoedd am ragor o fusnesau yn y sector lletygarwch a hamdden.

Ariennir arena cam un Bae Copr yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd hefyd yn cynnwys y datblygiad swyddfa newydd a gaiff ei adeiladu cyn bo hir yn 71/72 Ffordd y Brenin.

Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith