Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol

Hysbysiadau statudol presennol sy'n ymwneud â Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a wneir gan Ddinas a Sir Abertawe.

Beth yw Gorchymyn Traffig Arbrofol?

Mae gorchymyn arbrofol yn debyg i orchymyn rheoleiddio traffig parhaol, sef dogfen gyfreithiol sy'n gosod cyfyngiadau traffig a pharcio fel cau ffyrdd, parcio a reolir a rheoliadau parcio eraill a nodir gan linellau melyn dwbl neu un llinell felen etc.

Gall y Gorchymyn Traffig Arbrofol hefyd gael ei ddefnyddio i newid y ffordd y gweithredir cyfyngiadau presennol. Gwneir Gorchymyn Traffig Arbrofol o dan Adrannau 9 a 10 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd (1984). Gall gorchymyn arbrofol barhau i fod mewn grym am hyd at 18 mis wrth i'r effeithiau gael eu monitro a'u hasesu.

Yn ystod chwe mis cyntaf cyfnod arbrofol, gellir gwneud newidiadau i unrhyw un o'r cyfyngiadau (ac eithrio taliadau) os oes angen, cyn i'r cyngor benderfynu a yw'n mynd i barhau'n barhaol â newidiadau'r gorchymyn arbrofol neu beidio.

A oes modd gwrthwynebu gorchymyn rheoleiddio traffig arbrofol?

Nid oes modd cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol yn erbyn gorchymyn rheoleiddio traffig arbrofol nes iddo ddod i rym. Pan fydd mewn grym, gellir cyflwyno gwrthwynebiadau i wneud y gorchymyn yn barhaol ac mae'n rhaid gwneud hyn o fewn chwe mis i'r diwrnod y daw'r gorchymyn arbrofol i rym.

Os ceir adborth neu wrthwynebiad yn ystod y cyfnod sy'n awgrymu newid ar unwaith i'r arbrawf, gall y newid hwnnw gael ei wneud ac yna gall yr arbrawf fynd yn ei flaen. Os caiff y gorchymyn arbrofol ei newid, gallwch gyflwyno gwrthwynebiadau o fewn chwe mis i'r diwrnod y bydd y gorchymyn arbrofol yn cael ei newid.

Chwiliad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig

Chwilio am hysbysiadau statudol cyfredol sy'n ymwneud â Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig ac arbrofol parhaol a wnaed gan Gyngor Abertawe.
Close Dewis iaith