Digwyddiad yn cynyddu ymwybyddiaeth o hiliaeth i lywodraethwyr ysgol
Mae tua 90 o lywodraethwyr ysgol o bob rhan o Abertawe wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau i drafod a chynyddu ymwybyddiaeth o hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth.
Ymhlith y siaradwyr yn y sesiynau a gynhaliwyd ddydd Iau oedd Rachel Clarke, wyres Betty Campbell sef pennaeth du cyntaf Cymru ac arweinydd cymunedol amlwg.
Roedd Cyfarwyddwr Addysg Abertawe, Helen Morgan-Rees hefyd yn bresennol gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru.
Dyma oedd y digwyddiad cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac roedd hefyd yn cynnwys gweithgareddau fel gweithdai a sesiynau holi ac ateb.
Fe'i trefnwyd gan Gyngor Abertawe a'i chyflwyno gan DARPL (Diversity and Anti-Racism Professional Learning).
Meddai Mrs Morgan-Rees, "Fel Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru, roeddwn i'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig y digwyddiad hwn i'n llywodraethwyr ysgol."