Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn cyrraedd y brig am hyrwyddo'r Gymraeg

Ysgol gyfun yn Abertawe yw'r gyntaf yn y rhanbarth i ennill gwobr aur am annog disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i siarad Cymraeg yn amlach y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Gowerton School receives gold Siarter Iaith award

Gowerton School receives gold Siarter Iaith award

Mae Ysgol Gyfun Tre-gŵyr wedi ennill gwobr aur y Siarter Iaith sydd newydd ei chyflwyno i'r ysgol.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon sy'n ceisio ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Nid yw'r fenter ar gyfer disgyblion yn unig - mae gan bob aelod o'r gymuned ran i'w chwarae, fel y cyngor ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach.

Mae Ysgol Gyfun Tre-gŵyr wedi gwneud y Gymraeg yn rhan annatod o bob adran ac i bob aelod o staff.

Mae'r ysgol wedi gwneud cysylltiadau cryf â'r gymuned leol, busnesau lleol ac ysgolion clwstwr yr ysgolion cynradd, yn ogystal â chefnogi ysgolion uwchradd eraill ar draws Abertawe.

Mae wedi dod ag ysgolion clwstwr ynghyd i arddangos perfformiadau eisteddfod ysgolion a rhannu eu doniau.

Ellie Thomas, y Criw Cymraeg a'r staff sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain y Siarter Iaith yn Ysgol Gyfun Tre-gŵyr.

Meddai'r Pennaeth, Kathleen Lawlor, "Mae ennill y wobr aur yn cydnabod gwir effaith, gwaith caled ac ymroddiad yr ysgol gyfan, y rhieni a'r gymuned i hybu'r Gymraeg.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y wobr aur a hoffem ddiolch i bawb yn yr ysgol ac y tu allan iddi am y rhan y maent wedi'i chwarae".

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi pob ysgol i gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg yn gymdeithasol drwy ddefnyddio'r Siarter Iaith fel rhan o'i Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pob ysgol cyfrwng Cymraeg i gyrraedd o leiaf gwobr arian y Siarter Iaith a phob ysgol cyfrwng Saesneg i gyrraedd o leiaf gwobr efydd y Siarter Iaith yn ystod oes y cynllun.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Hoffwn longyfarch Ysgol Gyfun Tre-gŵyr am ennill y wobr aur, am gyflawniad arbennig."

Close Dewis iaith