Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Chwarae mewn Ysgolion 2025 / 2026

Fel rhan o'r ddyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd, nodwyd bod mynediad at gyfleoedd chwarae o safon dan arweiniad plant mewn ysgolion yn allweddol i ddatblygiad plentyn.

Felly, mae Cyngor Abertawe unwaith eto wedi nodi cyfleoedd i ysgolion lleol gael gafael ar gyllid, a helpu i ddarparu cyfleoedd chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.

Mae hyd at £1,000 ar gael fesul ysgol ac mae angen i geisiadau ganolbwyntio ar brynu cyfarpar neu adnoddau eraill sy'n cefnogi cyfleoedd chwarae i blant yn yr ysgol.

Ni ellir defnyddio'r grant i gefnogi hyfforddiant na gweithgareddau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm, gan gynnwys chwaraeon.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.

Gan fod cyllid cyfyngedig gael, sylwer na fydd pob cais yn llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd 1 Rhagfyr 2025.

Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, mae croeso i chi e-bostio chwarae@abertawe.gov.uk


Mae chwarae'n fwy na hwyl; mae'n hanfodol.

Drwy chwarae, mae plant yn dysgu sut i feithrin cysylltiadau ag eraill, magu amrywiaeth eang o sgiliau arwain, datblygu gwydnwch, ymdrin â pherthnasoedd a heriau cymdeithasol, a goresgyn eu heriau. Mae'n helpu plant i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Nod y grant Chwarae mewn Ysgolion yw cyfoethogi cyfleoedd chwarae ac amserau chwarae.

Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio fel a ganlyn:

  • Podiau storio ar gyfer cyfarpar amser chwarae.
  • Cyfarpar amser chwarae i wella profiadau chwarae ac ymestyn y dychymyg.
  • Marciau chwareus mewn ardaloedd chwarae.
  • Rhannau rhydd.
  • Gwaith ar sylfeini i gefnogi chwarae dan arweiniad plant.
  • Byrddau cyfathrebu.

Ni ddylai'r grant gefnogi gweithgareddau na hyfforddiant sy'n seiliedig ar y cwricwlwm.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am chwarae mewn ysgolion gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://chwarae.cymru/chwarae/chwarae-mewn-ysgolion/

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Grant Chwarae mewn Ysgolion - gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am y grant Chwarae mewn Ysgolion.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Hydref 2025