Grant Urddas Mislif yn y Gymuned 2024 / 2025
Mae cyllid ar gael gan Gyngor Abertawe drwy Grant Urddas Mislif yn y gymuned Llywodraeth Cymru, i sicrhau mynediad at gynhyrchion mislif, am ddim mewn modd hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.
Bydd cynhyrchion mislif ar gael i'r rheini sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel a chymunedau lle nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon.
Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?
Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat.
Meini prawf y gronfa
- Bydd cynhyrchion mislif ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel, am ddim mewn modd hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.
- Rhoddir blaenoriaeth i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon, gan gynnwys y canlynol:
- Cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifioedd Ethnig
- Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
- Pobl anabl
- Cymunedau LHDTC+
- Dioddefwyr cam-drin domestig
- Mae'n rhaid i o leiaf 75% o'r cynhyrchion islif a brynir fod yn ecogyfeillgar, e.e. cynhyrchion ailddefnyddiadwy a/neu gynhyrchion heb blastig: Cynhyrchion mislif ecogyfeillgar
Adnoddau defnyddiol:
Cymru sy'n falch o'r mislif Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-syn-falch-or-mislif
Mislif Fi: https://mislif-fi.cymru/
Addysg Cymru: Chwalu mythau am y mislif: https://hwb.gov.wales/repository/resource/686e315c-2f6c-428e-8425-2740bcf3da74/en
Gwariant cymwys a gwariant nad yw'n gymwys
Gwariant cymwys:
- Cynhyrchion mislif;
- bagiau gwaredu cynhyrchion mislif;
- pyrsiau cario cynhyrchion / bagiau dwrglos i'w defnyddio gyda'r cynhyrchion ailddefnyddiadwy;
- dillad i'w darparu os nad oes gan berson digartref ddillad glân ac mae gwaed o'r mislif wedi staenio / baeddu ei ddillad;
- peiriannau dosbarthu cynhyrchion mislif;
- Costau sy'n gysylltiedig â dosbarthu cynhyrchion i dderbynyddion, er enghraifft, postio i gyfeiriad cartref;
- Hancesi sychu - gellir cynnig y rhain os bydd rhywun oddi cartref ac mae eu hangen at ddibenion hylendid yn unig. Holl hancesi - p'un a ydynt wedi'u labeli fel rhai bioddiraddadwy, rhai y gellir eu rhoi yn y tŷ bach neu rai ecogyfeillgar, dylid cael gwared arnynt yn y bin gwastraff cyffredinol. Ni ddylech fyth fflysio hancesi sychu.
- Cyfathrebu a marchnata nad ydynt yn cael eu cynhyrchu'n ganolog fel gwasanaethau hysbysebu lleol, er enghraifft, tanysgrifiadau. Dylech osgoi'r angen am adnoddau wedi'u hargraffu lle bynnag y bo modd. Pwysig: Mae angen cytuno ar unrhyw gostau sy'n ymwneud â chyfathrebu a marchnata ymlaen llaw.
- Hyfforddiant / addygs yn y gymuned (rhaid darparu cyfle i ddefnyddwyr fynd â chynhyrchion mislif adref gyda nhw i roi cynnig arnynt. I wneud ymholiad am gyfleoedd hyfforddiant lleol, cysylltwch â STOPP: stopp.campaign@gmail.com
Gwariant nad yw'n gymwys:
- Costau storio ar gyfer cadw cynhyrchion mislif.
- Poteli dŵr poeth, blancedi a gofal croen ar gyfer pobl ddigartref.
- Cynhyrchion golchi cyffredinol gan gynnwys gel cawod, sebon, diaroglydd a chynhyrchion ar gyfer dannedd.
- Hancesi hylendid nad ydynt yn ecogyfeillgar.
- Biniau gwaredu cynhyrchion mislif.
Lefelau ariannu
Ar y cyfan, mae £65,000 o arian cyfalaf o'r grant Urddas Mislif yn y Gymuned ar gael ar gyfer Abertawe. Caiff pob cais ei asesu ar sail ei haeddiannau, fodd bynnag, o ystyried niferoedd blaenorol sefydliadau a gefnogwyd, rydym yn disgwyl ceisiadau am gyllid gwerth hyd at £2,000.
Os hoffech wneud cais am swm mwy o arian, neu os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.
Dyddiadau cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun, 28 Gorffennaf 2024.