Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiwn i ddysgu mwy am grantiau busnes newydd yn cael ei lansio'n fuan yn Abertawe

Mae gan fusnesau Abertawe'r cyfle i gael gwybod mwy am nifer o grantiau newydd a fydd ar gael yn fuan.

Businesswoman on laptop

Businesswoman on laptop

Mae sesiwn ar-lein, a redir gan Gyngor Abertawe, wedi'i threfnu rhwng 10am ac 11am ddydd Iau 6 Ebrill.

Mae pecyn o gynlluniau i gefnogi busnesau Abertawe ymysg prosiectau angori Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n werth £38.4m i'r ddinas.

Mae grantiau dechrau busnes, grantiau datblygu gwefan, grantiau twf, grantiau lleihau carbon a grantiau datblygu cyflenwyr ymysg y rheini a gaiff eu rhoi ar waith ar gyfer y cynllun, gyda cheisiadau i agor yn yr wythnosau i ddod.

Yn y sesiwn ar-lein, darperir trosolwg o bob un o'r cronfeydd grant newydd. Ymdrinnir â meini prawf cymhwysedd hefyd, yn ogystal â'r broses ymgeisio a'r wybodaeth ategol sy'n ofynnol ar gyfer pob cynllun.

Bydd busnesau a fydd yn bresennol yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe gynifer o fusnesau a phobl arloesol a chanddynt syniadau gwych ar gyfer cyfleoedd busnes, felly rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i helpu. Dyna pam y nodwyd cymorth busnes fel thema allweddol ein cynlluniau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol a helpu busnesau newydd i ymsefydlu a ffynnu.

"Byddwn yn cyhoeddi'r manylion ymgeisio yn yr wythnosau sy'n dod ar gyfer pob un o'r grantiau busnes a fydd ar gael, a bydd y sesiwn ar-lein ar 6 Ebrill yn rhoi rhagor o wybodaeth i fusnesau ac yn ateb unrhyw gwestiynau y gall fod gan bobl fusnes.

"Pan fyddant yn fyw, bydd y cynlluniau grant hyn o fudd i lawer o fusnesau yn Abertawe, gan helpu i roi cymorth mewn meysydd sy'n amrywio o ddatblygu gwefannau a lleihau carbon i gynigion ar gyfer twf ac ehangiad."

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn dod i'r sesiwn ar 6 Ebrill gadw lle drwy fynd i www.bit.ly/SPFgrants

Mae'r sesiwn ymysg y digwyddiadau awr bŵer a drefnir gan Dîm Cymorth Busnes Cyngor Abertawe sy'n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd a all fod o ddefnydd i fusnesau newydd neu sefydledig.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o raglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Close Dewis iaith