Grantiau ar gael i helpu busnesau i fod yn wyrddach
Mae busnesau Abertawe sydd am leihau eu hôl troed carbon yn cael help llaw.
Mae grantiau gwerth hyd at uchafswm o £10,000 bellach ar gael i helpu busnesau i dalu am gostau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mesurau cadw ynni neu newidiadau i brosesau cynhyrchu.
Cynhelir y grant gan Gyngor Abertawe gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac mae angen i'r holl ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau'r cynllun.
Bydd angen i holl ymgeiswyr y grant lleihau carbon gofrestru ar gyfer cwrs misol am ddim a gynhelir gan y cyngor, a fydd yn dangos i fusnesau sut i nodi mesurau i leihau eu hôl troed carbon a gwella'u heffeithlonrwydd ynni. Bydd y cwrs hefyd yn dangos i fusnesau sut i gynnal archwiliad ynni.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn ymrwymedig i Abertawe'n dod yn ddinas sero net erbyn 2050 a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi busnesau a phreswylwyr i'n helpu i gyrraedd y nod hwnnw.
"Un enghraifft o'r gefnogaeth hon yw argaeledd y cynllun grant hwn ar gyfer busnesau Abertawe, yn ogystal â'r cwrs misol am ddim i roi argymhellion o ran lleihau carbon ac effeithlonrwydd ynni.
"Mae'n un o nifer o grantiau y gall busnesau ar draws y ddinas wneud cais ar eu cyfer, ar ôl i gefnogi busnesau gael ei nodi fel prif ffocws buddsoddiad ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe."
Gall busnesau Abertawe gadw lle ar y cwrs misol am ddim yma, a chynhelir y cyrsiau tan hydref 2024.
E-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am grantiau lleihau carbon neu i ofyn am ffurflen gais.
Ymysg y grantiau eraill sydd bellach ar gael mae arian ar gyfer busnesau cyn cychwyn, datblygu gwefannau, twf busnesau a datblygiad cyflenwyr. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.