Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwyrddlasu stryd siopa allweddol er mwyn iddi gael dyfodol mwy disglair

Mae un o strydoedd siopa mwyaf hanesyddol Abertawe'n mynd i gael ei gwyrddlasu.

Woodfield Street, Morriston

Woodfield Street, Morriston

Bydd Cyngor Abertawe yn ymgymryd â gwaith gwyrddlasu gwerth tua £160,000 yn Woodfield Street, yn Nhreforys.

Caiff coed newydd eu cyflwyno ynghyd â dysglau plannu gwenithfaen wrth ymyl y ffordd, a bydd planhigion sy'n hawdd eu cynnal yn darparu gwyrddni drwy'r flwyddyn gron ac yn gwella golwg y stryd.

Gosodir dysglau plannu, meinciau a rheseli beiciau newydd hefyd. Ceir gwared ar folardiau nad oes eu hangen mwyach - a bydd byrddau dehongli newydd yn dathlu treftadaeth yr ardal.

Bydd y planhigion newydd yn gwella bioamrywiaeth, yn denu pryfed peillio ac yn amsugno llygryddion a dŵr wyneb. Bydd yn creu stryd lle bydd ymwelwyr yn mwynhau treulio amser mewn amgylchedd iachach a mwy atyniadol.

Y bwriad yw i fusnesau lleol elwa o fwy o ymwelwyr.

Mae'r gwaith yn dilyn gosod to gwyrdd newydd ar adeilad Swyddfa Bost Woodfield Street.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn gwneud Woodfield Street yn lle mwy atyniadol i ymweld â hi, siopa a threulio amser arbennig.

"Mae gwyrddni atyniadol yn denu pobl ac yn cynyddu'r amser maent yn ei dreulio mewn ardal, gan eu gwneud yn fwy tebygol o ymweld a chefnogi busnesau lleol.

"Mae gan Dreforys hanes gwych - roedd yn un o drefi mwyaf diwydiannol y byd yn y dyddiau pan roddodd diwydiant copr Abertawe'r ardal ar y map byd-eang.

"Rydym am i Dreforys gael dyfodol da hefyd."

Mae'r cyngor wrthi'n adfywio Gwaith Copr yr Hafod-Morfa sydd gerllaw a choridor isaf afon Tawe.

Ymgymerir â'r gwelliannau i Woodfield Street fel rhan o waith gan Adfywio Treforys, grŵp partneriaeth a reolir gan y cyngor sy'n helpu i roi hwb i economi Treforys.

Sicrhawyd cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Tîm Cadwraeth Natur y cyngor a chynghorwyr ward Treforys.

Disgwylir i waith ddechrau o'r wythnos hon (sylwer: dydd Mercher 12) tan oddeutu mis Ebrill. Caiff ei wneud fesul cam i leihau tarfu i fusnesau a siopwyr. Bydd y ffordd yn aros ar agor. Hysbyswyd masnachwyr lleol.

Mae llwyddiannau diweddar yn Nhreforys wedi cynnwys nifer o fentrau a ysgogir gan y corff partneriaeth, Adfywio Treforys. Maent wedi cynnwys digwyddiad Nadolig Fictoraidd, hwb cyflogadwyedd wythnosol i helpu pobl i ddod o hyd i waith a chyllid ar gyfer tu blaenau siopau a busnesau newydd.

Rhagor o wybodaeth: www.bit.ly/RegenMorriston

Close Dewis iaith