Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd gwyrdd newydd wedi'u plannu ar hyd porth allweddol i'r ddinas

Mae digon o ardaloedd gwyrdd bellach wedi'u plannu ar hyd porth allweddol i ganol dinas Abertawe i roi golwg newydd iddo.

New greenery on Oystermouth Road

New greenery on Oystermouth Road

Mae'r amrywiaeth o blanhigion, llwyni ac ardaloedd glaswelltog sydd bellach wedi'u gosod ar hyd Oystermouth Road yn ffurfio rhan o ardal Cam Un Bae Copr newydd y ddinas gwerth £135m.

Bydd yr ardaloedd gwyrdd, sydd wedi'u gosod ger llwybr defnydd a rennir newydd i gerddwyr a beicwyr, yn cael eu hategu gan wal fyw cyn bo hir, sy'n cael ei chyflwyno yn y maes parcio sydd wrthi'n cael ei adeiladu gerllaw.

Mae Cam Un Bae Copr, sydd wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark, hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw a fydd yn cynnwys detholiad o goed newydd, gan gynnwys coed ceirios a phinwydd.

Maent ymysg dros 70 o goed newydd sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r ardal. Bydd coed newydd hefyd ar y ramp sy'n arwain i'r bont newydd dros Oystermouth Road, ynghyd â chwe llwyfen newydd ar y llain ganolog yn agos i gyffordd Oystermouth Road â Ffordd y Gorllewin.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd arena newydd Abertawe sydd yng nghanol ardal Cam Un Bae Copr yn dod ag adloniant o'r radd flaenaf i'n dinas, ond rydym hefyd am i'r datblygiad cyffredinol fod mor wyrdd a chynaliadwy â phosib.

"Bydd yr ardaloedd gwyrdd newydd sydd bellach wedi'u gosod ar hyd rhan o Oystermouth Road yn creu amgylchedd mwy pleserus i breswylwyr ac ymwelwyr, wrth roi hwb i fioamrywiaeth ac ategu'n cynlluniau ar gyfer parc arfordirol a wal fyw yn yr ardal.

"Mae hyn yn rhan o strategaeth i gyflwyno llawer mwy o ardaloedd gwyrdd yn Abertawe wrth i ni ymdrechu i fod yn ddinas sero-net erbyn 2050. Mae Ffordd y Brenin eisoes wedi elwa o fwy o ardaloedd gwyrdd fel rhan o brosiect trawsnewid gwerth £12m, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ychwanegu rhagor o ardaloedd gwyrdd yn Sgwâr y Castell.

"Gan weithio gyda'n partneriaid, bydd rhagor o waliau a thoeon gwyrdd yn cael eu gosod yng nghanol y ddinas hefyd, gyda pharc dros dro hefyd yn cael ei gyflwyno ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant cyn i ni adfywio'r safle yn y tymor hwy."

Bydd nodweddion dŵr a gwestai trychfilod hefyd yn cael eu cynnwys ym mharc arfordirol Bae Copr, a ddyluniwyd ar ffurf twyn i ddathlu'i agosrwydd at draeth Abertawe.

Bydd y bwyty yn y parc arfordirol, a fydd yn cael ei redeg gan The Secret Hospitality Group, yn cynnwys deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy ynghyd â phaneli solar i leihau ei ôl droed amgylcheddol.

Bydd y gwaith adeiladu yn ardal cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Contracting Limited - yn cael ei gwblhau'n hwyrach eleni, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Mae nodweddion eraill Cam Un Bae Copr yn cynnwys cartrefi newydd, y bont newydd dros Oystermouth Road a mannau eraill ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.

Close Dewis iaith