Toglo gwelededd dewislen symudol

Helpwch i arwain Taith Hawliau Dynol Abertawe

Mae angen pobl i helpu i lywio ac arwain y cam nesaf o daith Dinas Hawliau Dynol Abertawe.

Human Rights City flag - cabinet members and officers

Human Rights City flag - cabinet members and officers

Yr amser hwn y llynedd datganodd Gyngor Abertawe a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe statws Dinas Hawliau Dynol.

Mae'n golygu bod partneriaid yn croesawu gweledigaeth o gymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel sydd wedi'u hadeiladu ar sylfeini Hawliau Dynol Cyffredin, lle mae pawb yn cyfrif.

Maent hefyd yn gweithio i roi ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau dynol ar waith ym mhopeth y maent yn ei wneud.

Mae panel rhanddeiliad yn cael ei sefydlu ac mae angen gwirfoddolwyr i helpu i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â blaenoriaethau a nodwyd gan y cyhoedd, bod straeon da yn cael eu rhannu a bod y meysydd y mae angen eu gwella'n cael eu gwella.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn ymuno â'r panel rhanddeiliad, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/hawliaudynoleinpenderfyniadau